Sut mae’r Eglwys i wneud ei gwaith heddiw? – Ble yn union y mae ei gwendidau a ble mae angen cryfhau? – Ble mae’r frwydr wrth wynebu mileniwm newydd? – A ddylid gwneud rhywbeth ar wahan i obeithio a gweddio am adfywiad?
Dyna oedd geiriau Gwynn Williams wrth iddo anerch cynhadledd flynyddol MEC yn 1998 wrth iddo fynd ymlaen i siarad ar y pwnc ‘Ennill Cymru i Grist’. Bu bendith amlwg ar y gynhadledd ac fe gyhoeddwyd y llyfr ‘Ennill Cymru i Grist’ y flwyddyn ganlynol.
Mae gymaint o’r cynnwys yn berthnasol i ni yn 2017 – ac felly rydym wedi llwytho’r pregethau ar y wefan fel eu bod ar gael i bobl unwaith eto.
Cliciwch yma er mwyn draw i’r dudalen berthnasol.
Bendith ar y gwrando… a gadewch i ni weddio a gweithredu fel ein bod ninnau yn cael bod yn rhan o ennill Cymru i Grist!