Efallai fod rhai ohonoch wedi dod ar draws ‘A Passion for Life’ o’r blaen. Mae gweledigaeth A Passion for Life yn cynnwys gwasanaethu pob rhan o Brydain ac Iwerddon ac felly mae’n gyffrous gweld fideos Cymraeg eu hiaith yn cael eu cyhoeddi . Rydym yn gweddïo y byddan nhw’n fendith i gapeli ac eglwysi Cymraeg.
Dilynwch y linc isod i wylio Steffan Jones yn esbonio bwriad y gyfres:
https://www.facebook.com/apassionforlifemission/videos/5248077408549286/
Mae chwech sesiwn:
Bod yn glir ar gynnwys yr efengyl gydag Emyr James
Gweld y colledig fel mae Duw yn eu gweld gyda Carwyn Graves
Duw a ni: Pwy sy’n gwneud beth? gyda Rhodri Glyn
Magu cysylltiadau yn y gymuned gydag Elen Fon
Arfogi Cristnogion i rannu’r efengyl gyda Steffan Job
Meithrin Cristnogion newydd gyda Bethan Perry
Mae gan bob sesiwn dystiolaethau personol hefyd a Chanllaw Arweinwyr.
Cliciwch yma i weld y 6 fideo:
https://www.apassionforlife.org.uk/cymraeg/hyfforddiant-efengylu/
Fe fyddwn ni mor ddiolchgar os gallwch chi weddïo am y fideos yma, a’u rhannu gyda ffrindiau neu gysylltiadau Cymraeg, yng Nghymru a thu hwnt.