Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Rhifyn Cylchgrawn:

Hydref 2017

27 Medi, 2017

Rhaniadau’r Diwygiad

gan Geraint Lloyd

Ni fydd pawb yn dathlu’r Diwygiad Protestannaidd eleni, neu o leiaf ni fydd y dathliadau’n ddigymysg. Ar ddechrau’r flwyddyn, ar ddiwedd wythnos undod Cristnogol, cyhoeddodd Archesgobion Caer-gaint a Chaerefrog ddatganiad ar y cyd. Er eu bod yn croesawu’r adfywiad ysbrydol a ddaeth yn sgil y Diwygiad a roddodd fodolaeth i’r Eglwys Anglicanaidd, rhaid gresynnu, meddent,…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

GWAITH EFFEITHLON Y DEYRNAS

gan Steffan Job

Rydym yn byw mewn amser diddorol iawn, lle mae’r pwyslais ar fod yn effeithlon yn gryf. O’r wasgfa am werth am arian gan wasanaethau cyhoeddus i’r nodyn ar waelod yr e-bost sy’n dweud ‘ystyriwch ydych chi angen argraffu’r e-bost yma? – Arbedwch egni ac arian!’ Mae geiriau megis arolwg, ail-strwythuro a deialog proffesiynol personol yn…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

Efengylydd Newydd Caerfyrddin

gan Roger Thomas

Mae Roger Thomas newydd ddychwelyd i Gaerfyrddin ar ôl chwarter canrif. Yn ystod y cyfnod hwn, bu newid mawr yn y dref, ac ym mywyd Roger. Er iddo gael ei fagu ar fferm Pentre Bach, Peniel, a mynychu’r ysgol Sul a’r capel ym Mheniel, daeth i brofiad o’r efengyl yn ystod ei gyfnod yn astudio…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

Ewch i’r holl fyd a phregethwch yr efengyl i’r greadigaeth i gyd

gan Wyn Evans

Pan fyddwn yn gadael y tŷ yn y bore, i ble yn union rydyn ni’n mynd? I’r byd a’i bobl. Ond i ba fath o fyd? Ai’r un byd a greodd Duw yn y dechrau, lle roedd dyn yn byw mewn cytgord perffaith â Duw, lle teyrnasai tangnefedd, ac roedd dyn heb bechod? Ai dyna’r…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

Diwygiad mewn Deffroad

gan Eifion Evans

Am ganrif bellach, ar wahân i ambell gynnwrf lleol am gyfnodau cymharol fyr, ni fu bywiogrwydd crefyddol yn amlwg yng Nghymru. Mae’n wir i ddiwygiad cyffredinol a bywhâd personol fod yn faich i sawl credadun, ac ni fynnwn ddirmygu ‘dydd y pethau bychain’ (Sech. 4:10). Er hynny, trai fu ar grefydd, trai difrifol yn effeithio…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

Faint yw gwerth eich Beibl chi? – Gair Duw ar gyfer Ciwba

gan Clyde Briggs

Mae llawer o bobl yn teithio i Giwba y dyddiau hyn. Mae Ciwba yn wlad o dan reolaeth comiwnyddiaeth. Cafodd yr eglwysi efengylaidd eu herlid o dan reolaeth Fidel Castro, a oedd yn arwain y wlad am flynyddoedd, ac yn dilyn ei farwolaeth fe’i olynwyd gan ei frawd Raúl. Mae’n ymddangos bydd yr erlid yn…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

Gwersi’r Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru

gan Geraint Lloyd

Wrth gofio Luther eleni, nid ydym yn anghofio Cymru. Chwythodd awelon Wittenberg yma hefyd, ac os oes angen dyddiad, cofier taw 2017 yw 450 mlwyddiant cyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg. Nid oedd y cyfieithiad heb ei wendidau, ond roedd yn garreg filltir arwyddocaol, a defnyddiodd William Morgan dri chwarter Testament Newydd 1567 ar gyfer Beibl…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

Oes unrhyw lyfrau i’w darllen am y Diwygiad Protestannaidd?

gan Noel Gibbard

Oes, digonedd! Diolch i Noel Gibbard am gyflwyno rhai o’r llyfrau mwyaf diddorol i ni yma. Llyfrau Cyffredinol Un o’r cyflwyniadau cyffredinol gorau yw R. Tudur Jones, The Great Reformation (IVP, 1985; Bryntirion, 1997). Yma eglura’r awdur y byddai’n well sôn am ‘ddiwygiadau’ yn hytrach na ‘Diwygiad’ Protestannaidd. Dilyna’r hanes o wlad i wlad; nid…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

Sut i WeddÏo yn ôl Martin Luther

gan Martin Luther

Yn 1535 ysgrifennodd Martin Luther lyfr ar weddi i’w farbwr, Peter Beskendorf, a oedd wedi gofyn iddo am gyngor ar sut i weddïo. Isod nodir ddechrau’r canllawiau a gyfieithwyd i’r Saesneg o dan y teitl, A Simple Way to Pray. Hoffwn i ddweud wrthych chi, hyd y galla i, beth rydw i’n ei wneud yn…

Darllen ymlaen
27 Medi, 2017

MARTIN LUTHER: PLENTYN GRAS, PREGETHWR GRAS

gan Adrian Brake

Yng nghanol cyffro a bwrlwm y Diwygiad Protestannaidd mae’n hawdd colli golwg ar dystiolaethau personol y rhai a ddefnyddid gan Dduw i’w arwain. Dynion o’r un anian â ninnau oeddent; pechaduriaid a gafodd ras yn yr Arglwydd Iesu, gwrthryfelwyr a dderbyniodd faddeuant gan y Brenin. Yr oeddent wedi profi a gweld mai da yw’r ARGLWYDD…

Darllen ymlaen