Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Rhifyn Cylchgrawn:

Hydref 2011

27 Tach, 2018

Dod i adnabod Nathan Munday

gan Nathan Munday

Dwed ychydig bach am dy gefndir. Ces i fagwraeth hyfryd yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin a chael f’addysg yn Ysgol Gyfun Maesyryrfa . Fe ddes i yn Gristion pan oeddwn i’n saith mlwydd oed. Roeddwn wedi brifo mam rywsut a dwi’n cofio gweddïo am faddeuant yn f’ystafell y noson honno. 17 Ebrill 2000 oedd y…

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Pam dylwn i gredu’r Efengylau?

gan Eryl Davies

Cyfeiria’r teitl ‘Efengylau’ at y pedwar llyfr cyntaf yn y Testament Newydd, sef Matthew, Marc, Luc ac Ioan. A oes modd eu derbyn yn gofnodion cywir a hanesyddol? Nid cwestiwn dibwys yw hwn, herwydd yn y llyfrau hyn cawn ddisgrifiad o fywyd, gwaith, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Hoffwn i ateb y cwestiwn trwy ofyn sawl cwestiwn arall….

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Cyflwyniad i Gyfres Newydd: “Arolwg o’r Beibl”

gan Derrick Adams

Mae dwy ffordd o drafod mochyn cwta. Naill ai ei anwesu, neu ei agor i fyny mewn labordy er mwyn dadansoddi a labelu gwahanol ddarnau o’i gorff! Y ffordd gyntaf yn ddi-os yw’r ffordd fwyaf pleserus, ond o ddeall moch cwta yn fanylach gallwch ofalu amdanynt yn well. Mae’r un peth yn wir am ddarllen y Beibl. Rhaid…

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Myfi yw… Duw?

gan Mark Thomas

Trawodd gweinidogaeth Iesu o Nasareth Israel fel corwynt. Amlygodd ragrith crefyddol ei ddydd, a trawsnewidiodd ei ddysgeidiaeth a’i wyrthiau fywydau er gwell. Mae’n dal i gael yr un effaith drwy’r byd i gyd heddiw. Y mae hyn yn codi’r cwestiwn, ‘Pa fath o ddyn yw hwn…?’ O dro i dro, daw beirniaid sy’n honni mai…

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Dinistr Daeargrynfeydd 2011: Ymateb Cristnogol

gan Dewi George

Ym mis Ionawr 2010, bu daeargryn yn Haiti a effeithiodd ar 3 miliwn o bobl. Daeargryn hefyd a darodd ddinas Christchurch ar Ynys y De, Seland Newydd ym mis Chwefror eleni. Prin fis yn ddiweddarach, achosodd y daeargryn a darodd Sendai yn Siapan i tswnami godi a tharo’r tir mawr. Golchwyd trefi cyfan i ffwrdd gan y tswnami a chollodd…

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Golwg ar y Geiriau – Bywyd Tragwyddol

gan Iwan Rhys Jones

Nid gair ond ymadrodd sydd gennym y tro hwn, sef ‘bywyd tragwyddol’. Mae’r ymadrodd hwn yn codi sawl gwaith yn y Testament Newydd; mae’n rhan bwysig o neges Iesu Grist ac awduron y Testament Newydd. Dechreuwn trwy gofio mai rhodd yw bywyd tragwyddol; does neb yn gallu ei hawlio. Duw sy’n ei roi: ‘rhoi yn…

Darllen ymlaen