Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Rhifyn Cylchgrawn:

Haf 2017

27 Tach, 2018

gan Amanda Griffiths

Beth yw dy swydd di ar hyn o bryd? Mae gen i ddwy swydd ar hyn o bryd: rwy’n diwtor cysylltiol i Adran Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd a hefyd rwy’n Weithwraig Gwragedd yn Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd. Mi fyddaf yn gorffen y swyddi hyn gyda hyn gan fy mod newydd dderbyn swydd llawn amser…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

Y ‘Magnificat’ – mydryddiad

gan Edmund Owen

Mawrha yr Arglwydd, f’enaid cân A llawenha’n wastadol; Fy Nuw, fy iachawdwriaeth rad; Fy Ngheidwad yn dragwyddol. Edrych a wnaeth ar ddinod wedd Fy ngwaeledd, heb un dirmyg; Holl genedlaethau’r byd yn grwn A’m geilw’n wynfydedig. Cans sanct, galluog yw Duw’r ne’, Efe a wnaeth im fawredd; A’r rhai a’i hofnant o lwyr-fryd Yn hyfryd…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

Gras a chariad megis dilyw

gan Steffan Job

Wrth imi ysgrifennu’r erthygl hon mae hi’n ddiwedd mis Chwefror ac mae’r tywydd yn erchyll! Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai gwlyb a thywyll yma yn y Gogledd… O! am weld yr haul! Mae bywyd yn gallu bod fel yna i nifer ohonom â chyfnodau tywyll ac anodd yn dod ar ein traws ni…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

Eglwys Efengylaidd Aberystwyth yn 50 oed

gan Gwyn Davies

Yn gynnar ym mis Mehefin 1967 – union hanner can mlynedd yn ôl – daeth pedwar gŵr at ei gilydd yn Aberystwyth i weddïo am arweiniad. Annibynnwr o wyddonydd oedd Ieuan Jones, ond teimlai’n fwyfwy anfodlon nad oedd Gair Duw yn cael ei bregethu yn y capel a fynychai. Athro ysgol ac aelod gyda’r Hen…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

Beth sy’n digwydd ar ôl marwolaeth?

gan Alun Tudur

‘Dim byd! Mae’r galon yn stopio curo, mae’r ymennydd yn darfod a dwi’n peidio â bodoli. Job done! Dyna yw marwolaeth. Does dim byd mwy na hynny.’ Dyma hyd y gwelaf i yw safbwynt llawer o bobl erbyn hyn yn ein cymdeithas. Mae marwolaeth gorfforol yn golygu diwedd terfynol ar ein bodolaeth yn unigolion ac…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

Ioan Fedyddiwr

gan Peter Davies

IOAN FEDYDDIWR Dyn unigryw oedd Ioan Fedyddiwr. Bwytâi fwyd rhyfedd a gwisgai ddillad hynod. Tyrrai pobl ato i’r anialwch i wrando ar ei neges chwyldroadaol. Egyr y Testament Newydd gydag Ioan Fedyddiwr yn galw ar y bobl i edifarhau am eu pechodau (Mathew 3:2). Uniaethodd ei hunan â’r llais oedd yn galw am baratoi ffordd…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

O ffwrnais awen

gan Christine James

i Ania Lili, wedi gweld casgliad Prifysgol Harvard o blanhigion gwydr Carwn ddangos iti’r breuder hwn: harddwch creu o ffwrnais awen dyn â dwylo’i grefft; dawn efelychu roddodd fod i batrwm pob un petal prin, tryloywder lliw, gosodiad dail, cyn clymu gwreiddiau blêr y cannoedd rywogaethau. Carwn ddangos iti’r harddwch hwn: trefn tymhorau’n saff am…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

MAWRION MÔN

gan Gwyn Daviesgan John Aaron

Taith ynglŷn â hanes Cristnogaeth ym mro Eisteddfod Ynys Môn, Bodedern Bodedern Cychwynnwn ein taith ym Modedern, o flaen Soar, capel y Wesleaid, Stryd Wesley (LL65 3TD). Yma dechreuodd y ‘sblit’ cyntaf yn hanes Wesleaid Cymru. Ar y pryd nid oedd hawl gan bregethwyr lleol yr enwad bregethu tu allan i’w cylchdaith eu hunain. Teimlai…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

Teyrnged i Gordon Macdonald

gan Emyr Macdonald

Wrth i Eglwys Efengylaidd Aberystwyth ddathlu’r hanner cant, bydd cyfle hefyd i gofio’r arloeswyr ac un o’r rhain yw gweinidog cyntaf yr eglwys, Gordon Macdonald, a fu farw yn gynharach eleni. Treuliodd Gordon gyda chefnogaeth ddiysgog a gweddigar Rina ei wraig ei fywyd yn hyrwyddo’r dystiolaeth yng Nghymru, yn weinidog gyda’r Wesleiaid i ddechrau ac…

Darllen ymlaen
17 Hyd, 2017

Beth sy’n bod ar y byd?

gan Sion Meredydd

Pam mae rhaid i bobl ddioddef?’ Dyna gwestiwn a holir yn aml. Ac yna ‘pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint yn y byd?’ Pan welwn ni ddioddefaint, mae’n naturiol i ni holi ble mae Duw yn hyn. Gan fod cymaint o anghyfiawnder yn y byd, bydd nifer yn amau bodolaeth Duw cyfiawn a thrugarog. Hynny…

Darllen ymlaen