Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Rhifyn Cylchgrawn:

Gwanwyn 2012

6 Maw, 2012

Arolwg o’r Beibl: Llyfrau Hanes yr Hen Destament

gan Derrick Adams

Ail adran yr Hen Destament yw’r llyfrau hanes: deuddeg llyfr sy’n ymestyn o Josua hyd at Esther. Wrth astudio’r llyfrau yma cawn ein hatgoffa mai Duw rhagluniaeth yw ein Duw ni. Un sy’n ymyrryd mewn hanes ac sy’n rheoli ei holl droeon er mwyn cyflawni ei bwrpasau. Er enghraifft, gwelwn sut mae Duw yn diogelu llinach…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Arwain mewn Gweddi

gan Gwynn Williams

Mae hi bob amser yn fraint cael arwain mewn gweddi yng nghynulleidfa’r saint yn yr addoliad cyhoeddus ar y Sul. Ond nid gorchwyl hawdd i rywun sy’n gorfod gwneud hyn yn gyson. Mae’n hawdd iawn mynd yn amherthnasol ac ailadroddus ac, o ganlyniad, nid oes neb mewn gwirionedd yn cydweddïo â’r gweddïwr: sef un o’r…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Bywyd Gweddi Robert Murray McCheyne

gan Rhun Murphy

Dyn duwiol a gweinidog yr efengyl yn Dundee oedd Robert Murray McCheyne (1813-43), a’i ddylanwad yn fwy o lawer nag y gellid ei ddisgwyl o gofio iddo farw’n 29 oed. Dim ond am 7 mlynedd y bu yn y weinidogaeth a hynny’n cynnwys sawl cyfnod o waeledd. Er hyn, gwelodd fendith ryfeddol ar ei waith.         …

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Bendith yn y Cwrdd Gweddi: Profiad Mari Elin

gan Mari Elin Morgan

Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi… – Actau 1:14 Doeddwn i ddim wir wedi ystyried mynd i gwrdd gweddi’r eglwys a minnau ond yn fyfyrwraig, ond wrth glywed am y fendith oedd i’w chael yn y cyrddau hyn, penderfynais ddechrau mynd. Roedd gen i ambell i ragfarn: gweddïau a oedd…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Dau ŵr mewn dillad gwyn: Ailddyfodiad Iesu Grist

gan Edmund Owen

Roedden nhw’n sefyll yno ar fynydd yr Olewydd a dyrnaid o bobl gerllaw yn syllu tua’r nef, a Iesu yn esgyn. ‘Wŷr Galilea’, meddent, ‘pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i’r nef, yn dod yn yr un modd ag y…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Pwy greodd y Beibl?

gan Noel Gibbard

Braint fawr yw cael troi at y Beibl a’i ddarllen yn ein hiaith ein hunain. Braint hefyd yw gwybod mai dyma’r Beibl a fwriadodd Duw ar ein cyfer, sef y Beibl sy’n cynnwys tri deg a naw o lyfrau yn yr Hen Destament, a dau ddeg a saith yn y Testament Newydd. Mae’n arwydd o…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Gweddïo ar hyd Taith Bywyd

gan Rina Macdonald

Cefais dröedigaeth yn y coleg ym Mangor. Y diwrnod ar ôl i ffrind a minnau gyffesu ein ffydd yn yr Arglwydd Iesu, fe ofynnodd cyd-fyfyriwr inni, Elwyn Davies, a oeddem wedi darllen y Beibl a thystiolaethu wrth rywun. Awgrymodd y byddai’n dda inni ddweud wrth ein rhieni. Dywedodd fy ffrind na allai hi byth ddweud…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Help! Sut i weddïo fel teulu?

gan Steve Bowen

Cyn cael plant, fy argraff oedd mai peth hawdd, didrafferth fyddai gweddïo gyda’r teulu, ond ar ôl cael tri o blant bywiog, rwy’n sylweddoli bod eu cael i eistedd yn dawel ac yn llonydd yn her ynddi ei hun, heb sôn am eu cael i werthfawrogi mawredd yr hyn a wnawn wrth weddïo a’r un…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Gweddi’r Arglwydd

gan Derrick Adams

Effeithiwyd ar fy mywyd gweddi yn fawr gan hen weinidog a ddywedodd ei fod yn gweddïo Gweddi’r Arglwydd yn ddyddiol. Nododd fod gweddi wedi dod yn fwy ystyrlon, ac yn fwy heriol, wrth iddo ddeall y geiriau yn well a gorfod eu cymhwyso yn bersonol. Yn dilyn hyn, daeth Gweddi’r Arglwydd yn default setting i’m…

Darllen ymlaen
6 Maw, 2012

Golwg ar y Geiriau: Hwpomone

gan Iwan Rhys Jones

O bryd i’w gilydd yn yr ysgol, bydd athro neu athrawes yn ysgrifennu ‘dalier ati’ ar adroddiad gwaith. Dyna yn gryno yw ystyr y gair Groeg hwpomone, dyfalbarhad, neu’r gallu i ymddál. Cysylltir hwpomone yn aml iawn yn y Testament Newydd â threialon neu anawsterau. Dyma’r apostol Ioan yn llyfr y Datguddiad yn ein hatgoffa…

Darllen ymlaen
1 of 212