Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Rhifyn Cylchgrawn:

Gaeaf 2017

26 Maw, 2018

Diolch o Dad Nefol

gan Steffan Job

Mae hi’n dymor y diolch. Gydol mis Hydref roedd capeli ein gwlad yn fwrlwm o wasanaethau diolchgarwch ac er bod hynny wedi dirwyn i ben, a bydd y mis hwn yn llawn dathlu a diolch wrth dderbyn anrhegion Nadolig. Mae pawb yn gwybod beth yw hi i fod yn ddiolchgar. Weithiau teimlwn ddiolchgarwch tuag at…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

Iesu Da

gan Geraint Lloyd

Iesu da, ein gweddi clyw, Anfonedig mynwes Duw, Teg dywalltydd doniau lu, Tyred eto oddi fry. Gwisgo wnest ein natur dlawd, I ni gael dy alw’n Frawd, Gwared hen drueiniaid llawr Yn dy gôl, Waredwr mawr. Symud yr amheuon trwm, Gwna yn rhydd ysbrydoedd llwm, Addawedig oesoedd hir, Amen bydd i’r henair gwir. Crwydro’n ddall…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

Diwygiad Beddgelert a Chof Cenedl

gan Pedr Ap Llwyd

Un o’r diwygiadau lleol mwyaf grymus o’r llu o ddiwygiadau lleol a ddigwyddodd rhwng 1735 ac 1859 a rhwng 1859 a 1904 oedd ‘Diwygiad Beddgelert.’ Dechreuodd mewn oedfa yng nghegin Hafod Llan, Nantgwynant ar 17 Awst 1817 a hynny o ganlyniad i weddïau taer nifer o gredinwyr lleol a hiraethai am y bendithion nefol a…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

Pobl y Beibl – Mair

gan Peter Davies

Mae bod yn rhiant yn fraint a chyfrifoldeb. Braint a chyfrifoldeb unigryw Mair oedd bod yn fam i Fab Duw. Hi oedd yr unig berson a fu’n bresennol gyda’r Iesu o’i eni hyd ei farw. Newidiwyd bywyd Mair yn llwyr pan ymddangosodd yr angel Gabriel iddi. Roedd hi newydd ddyweddïo â Joseff pan ddywedodd yr…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

Teyrnged: MAIR JONES Llangennech

Er cof am ein hannwyl chwaer Mair Jones, a fu farw yn ddiweddar, dyma ailgyhoeddi cyfweliad rhyngddi a Gwen Emyr a ymddangosodd yn wreiddiol yn y Cylchgrawn yn rhifyn gaeaf 2003. Fyddech chi mor garedig â rhoi cipolwg inni ar rai o’r dylanwadau cynnar? Cefais fy ngeni yn Llangennech, ger Llanelli, ac roedd fy mrawd,…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

A daeth y Gair yn gnawd…

gan Cynan Llwyd

ymateb i Iddew gan Dyfed Edwards Roeddwn yn edrych ymlaen at ddarllen Iddew gan Dyfed Edwards am sawl rheswm. Mae’r teitl yn y lle cyntaf yn fachog ac yn ennyn diddordeb. Mae’r clawr yn un syfrdanol – Yr Iddew mewn coch a du trawiadol. Braf dweud na chefais fy siomi. Mae’r arddull yn un unigryw,…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

Emyn Gwrthgiliwr

gan Alwyn Pritchard

Tybed a ydych yn adnabod rhywun a oedd unwaith yn gynnes yn y ffydd, ond sydd bellach wedi cefnu ar ei broffes? A ydych yn y cyflwr hwnnw eich hun? Gadewch i mi roi gair o brofiad a fydd, gobeithio, yn cynnig cysur a gobaith. Rydw i wedi gweld yn fy mywyd fy hun wirionedd…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

Tad Mamol

gan Hector Morrison

Crynodeb o anerchiad Hector Morrison, Prifathro’r Highland Theological College, i Gynhadledd Saesneg Mudiad Efengylaidd Cymru, 17 Awst 2017. Does dim sail Feiblaidd o gwbl i gyfarch Duw fel mam, er gwaetha’r hyn a ddywed rhai diwinyddion ffeministaidd. Mae Duw y Beibl yn ei ddatguddio ei hun i ni fel Tad; dyna sut yr ydym i’w…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

2018 a Lleisiau Theomemphus

gan Emyr James

Addasiad o ddarlith a draddodwyd mewn cynhadledd ar Berthnasedd Pantycelyn. Mae llawer o sôn wedi bod eleni am William Williams Pantycelyn, wrth nodi 300 mlynedd ers ei eni. Ond ar drothwy 2018, gyda’r dathliadau yn dirwyn i ben, ydy hi’n amser anghofio amdano, a symud ymlaen i’r dathliad nesaf? Wel, ga i awgrymu bod gwers…

Darllen ymlaen
27 Tach, 2017

Blwyddyn Newydd Eeyore i chi!?

gan Trystan Hallam

Stabl Eeyore Ga i rannu cyfrinach â chi? Dwy i ddim yn hoffi Blwyddyn Newydd. Ar Nos Galan mae yna drawsnewidiad yn digwydd i mi. Trawsnewidiad – yng ngeiriau Katherine fy ngwraig – i fod fel Eeyore yr asyn. ‘Chi’n cofio’r asyn o storïau Winnie the Pooh A. A. Milne sy’n edrych ar yr ochr…

Darllen ymlaen