Hafan
Cychwyn:
06 Meh 2022 at 18:00yh
Gorffen:
11 Meh 2022 at 10:00yb
Cost:
£310

6-11 Mehefin 2022
ym Mryn-y-groes, Y Bala
gyda Geraint a Tina Morse
Cost £310
Ychydig ddyddiau o ymlacio, cymdeithas a gweinidogaeth ym Mryn-y-groes
Dyma wythnos o wyliau i oedolion a chyfle i ymlacio, mwynhau cymdeithas ac elwa o weinidogaeth y Gair ym Mryn-y-groes, y Bala. Dewch yn llu. Beth am wahodd grwp o ffrindiau i ddod gyda chi?
Bydd Geraint Morse yn arwain yr wythnos ac yn agor y gair bob bore. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau gyda’n gilydd yn yr hwyr a thrip un prynhawn.
Bydd yr wythnos yn cychwyn gyda phryd o fwyd am 6 yr hwyr nos Lun, ond mae croeso i chi gyrraedd unrhywbryd ar ol 3 y prynhawn. Bydd y tegell ymlaen! Bydd y Gwyliau yn dod i ben ar ol brecwast ar fore Sadwrn.
I fwcio cliciwch yma:
https://mudiadefengylaiddcymru.formstack.com/forms/byg_hafan_2022