Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Hyfforddiant i Swyddogion

Gwasanaethu Eglwysi

Diwrnod Hyfforddiant Gwersylloedd 2026

  • Dydd Sadwrn 21 Mawrth 2026, 9 y bore am frecwast!
  • Lleoliad: Eglwys Efengylaidd Malpas, Casnewydd, NP20 5PJ
  • Parcio: Mae digonedd o leoedd parcio ar gael ar y strydoedd preswyl ger y capel
  • Bwyd: Darperir Brecwast a Chinio

Yn ogystal a chynnig cyfle gwych i ddatblygu eich doniau a magu profiad o ran gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn cyd-destun Cristnogol, mae’r Diwrnod Hyfforddiant Gwersylloedd yn hanfodol o ran eich cefnogi i fod yn Swyddog, Caplan, Arweinydd neu aelod o dim arlwyo MEC!

Rhaglen

  • 9:00am – Brecwast a Gwaith Papur
  • 9:45am – Defosiwn- Gwydion Lewis
  • 10:30am – Sesiynau ar wasgar
  • – Swyddogion a Chaplaniaid: Pobl ifanc a’r Efengyl (John Funnell)
  • – Arweinwyr: Rhannu’r Baich (Dafydd Williams & Lara Jenkins)
  • – Tim Arlwyo: Rhannu Arferion Da (Deb Davies)
  • 11:15am – Paned
  • 11:45am – Y Newyddion Diweddaraf am Wersylloedd 2026
  • 12:00pm – Sgwrsio’n effeithiol ar wersyll (Eirian Davies & Catrin Goodwin)
  • 12:45pm – Cinio wedi’i ddarparu gan Malpas Road
  • 1:30pm – Amser trefnu gwersylloedd unigol

Cofrestru

Rhowch wybod i arweinydd eich gwersyll cyn gynted a phosibl os byddwch (neu os na fyddwch) yn mynychu’r Diwrnod Hyfforddiant, ac os oes gennych unrhyw anghenion deietegol. Mae angen i’r arweinwyr drosglwyddo’r wybodaeth hon i swyddfa MEC erbyn 13 Mawrth fel y gallwn roi digon o rybudd i Malpas Road.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o wersylloedd MEC, mae croeso i chi ymuno gyda ni ar y diwrnod er mwyn clywed mwy am y gwersylloedd a chyfarfod y tîm Nodwch na allwn warantu lle ar wersyll eleni, gan y bydd hyn yn ddibynnol ar angen a gwiriadau statudol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost i swyddfa@mudiad-efengylaidd.org.uk