Blas Gwersylloedd Cymraeg MEC
Ymunwch gyda ni am ddiwrnod llawn hwyl – cyfle i gyfarfod ffrindiau hen a newydd!
Pryd? 14 Tachwedd 2026, 10.30y.b–4.30y.h. Bydd angen casglu eich plant o Ysgol Gyfun penweddig – mae yna wedyn croeso i chi ymuno gydag eraill am fwyd ym McDonalds.
Ble? Ysgol Gyfun Penweddig (SY23 3QN) – NODWCH FOD Y LLEOLIAD WEDI NEWID ELENI
I bwy? Unrhyw wersyllwyr hen ac newydd rhwng 10-18. Croeso i unrhyw blentyn fydd yn 10 erbyn 31 Awst 2027 i fynychu Blas. Mae’n gyfle gwych i blant fydd yn newydd ar y gwersylloedd blwyddyn nesaf i gael blas ar y digwyddiadau a chwrdd â’u cyd-wersyllwyr.
Beth? Cwrdd â ffrindiau hen a newydd, dysgu am Iesu, gemau, mynd am dro – a llawer mwy!
Pris? Bydd y digwyddiad hwn am ddim eleni – bydd angen dod â phecyn bwyd ar gyfer amser cinio.
Teithio – Mae plant yn dod o bob rhan o Gymru i ‘Blas y Gwersylloedd’, a bydd lifftiau yn cael eu trefnu o wahanol fannau. Cysylltwch gyda’r swyddfa os hoffech help i ddod o hyd i lifft – swyddfa@mudiad-efengylaidd.org
English – More information can be found (including booking) in English by clicking on the English button at the top of the page
Archebu – Cwblhewch y ffurflen isod i archebu os gwelwch yn dda.

Blas Gwersylloedd Cymraeg MEC