Telerau Mini Gwersyll MEC 2023
A)Archebu
- Rhaid archebu ar lein trwy wefan MEC. Rhaid i’r ffurflen gael ei llenwi’n llawn ac yn onest gan rhiant neu gwarcheidwad y plentyn. Ni dderbynnir ffurflenni os oes gwybodaeth ar goll neu’n gamarweiniol. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i swyddfa MEC (cyn dechrau’r gwersyll) os yw’r anghenion iechyd, addysgol neu ymddygiadol yn newid i’r hyn a ddatgelwyd ar y ffurflen archebu.
- Rhaid talu blaendal ni ellir ei ad-dalu o £30 y plentyn wrth archebu.
- Byddwch yn derbyn cadarnhad o’ch archeb o fewn 28 diwrnod dros ebost.
- Bydd llefydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Os yw’r gwersyll yn llawn, gallwch gysylltu â’r swyddfa i gael eich rhoi ar restr aros (e-bostiwch swyddfa@mudiad-efengylaidd.org gyda manylion y plentyn).
- Rhaid talu’n llawn am y Mini Gwersyll erbyn 6ed Chwefror 2023. Byddwn yn danfon anfoneb i chi os oes gweddill i dalu, a bydd modd talu trwy gerdyn credit/debyd, siec neu trosglwyddiad banc. Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau bod y gweddill yn cael ei dalu’n brydlon. Os na dderbynnir y gweddill fe ellir canslo eich archeb.
- Byddwch yn derbyn llythyr gan arweinydd y gwersyll pythefnos cyn dechrau’r gwersyll, dros ebost.
B) Bwrseri a Gostyngiadau
- Gostyngiadau i frodyr a chwiorydd – Mae gan bob brawd neu chwaer hawl i un gostyngiad o £10. Dim ond un gostyngiad y maent yn gymwys, hyd yn oed os ydynt yn mynychu gwersylloedd lluosog.
- Mae cronfa Anti Bessie ar gael i’r rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol (neu gyfwerth). Gallwch wneud cais am fwrsari (£50 ar gyfer y Mini Gwersyll) drwy anfon llungopi prawf cymhwysedd i MEC (swyddfa@mudiad-efengylaidd.org, neu Gwersylloedd MEC, 31 Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2EU). Mae bwrsari o gronfa Anti Bessie yn gyfyngedig ac yn dibynnu ar argaeledd.
C) Newidiadau a Chanslo
- I newid eich archeb cysylltwch â swyddfa MEC ar unwaith. Efallai y bydd tâl gweinyddol o £10 y tocyn yn daladwy. Sylwch nad yw lleoedd yn drosglwyddadwy.
- Canslo: cysylltwch â ni ar unwaith os hoffech ganslo eich archeb. Rhoddir ad-daliad llawn (llai’r blaendal) am ganslo 28 diwrnod cyn dechrau’r gwersyll perthnasol. Bydd canslo a wneir rhwng 8-27 diwrnod cyn dechrau’r gwersyll yn derbyn ad-daliad o 50% (llai blaendal). Ni fyddwn yn gallu ad-dalu tocynnau o fewn 7 diwrnod i ddechrau’r gwersyll.
- Bydd ffioedd llawn (llai blaendal) yn cael eu had-dalu am salwch ardystiedig ar ôl derbyn y prawf. Rhowch wybod i Swyddfa MEC ar unwaith, ac anfonwch brawf i: swyddfa@mudiad-efengylaidd.org, neu Gwersylloedd MEC, 31 Ffordd Caergybi, Bangor LL57 2EU
Ch) Cod Ymddygiad
Fel bod gwersylloedd MEC yn gallu rhedeg yn ddiogel er lles pawb mae rheolau a safonau ymddygiad y disgwyliwn i wersyllwyr eu parchu yn ystod y gwersyll.
- Rhaid i bob gwersyllwr gymryd rhan ym mhob gweithgaredd, yn cynnwys y cyfarfodydd dyddiol a’r astudiaethau Beiblaidd.
- Disgwylir i bob gwersyllwr ddilyn cyfarwyddiadau’r arweinwyr a’r swyddogion yn ystod y gweithgareddau.
- Ni chaiff unrhyw wersyllwr fynd i ystafell gwersyllwr o’r rhyw arall.
- Bydd unrhyw wersyllwr sy’n achosi niwed bwriadol i adeilad neu eiddo rhywun arall yn gyfrifol am gost trwsio/adnewyddu.
- Ni chaniateir alcohol/ysmygu – gan cynnwys ‘vapes’.
- Ni chaniateir ‘energy drinks’ o unrhyw fath e.e. Red Bull, Monster. Mae hyn yn cynnwys gwaharddiad ar brynu nhw yn ystod y gwersyll.
- Os bydd person ifanc dros 17 yn dod a’u car ar y gwersyll, gofynnwn iddynt beidio a’i ddefnyddio yn ystod y gwersyll.
- Ni chaniateir defnydd cyfarpar sain/adloniant personol e.e. iPad.
Rhaid i bob gwersyllwr arwyddo’r datganiad ar y ffurflen archebu, gan ddangos eu parodrwydd i barchu’r Côd Ymddygiad. Bydd ymddygiad bwriadol neu gyson sy’n groes i’r Côd yn gallu arwain at waharddiad o’r gwersyll heb ad-dalu ffioedd.
D) Eiddo Coll
Bydd eiddo coll heb ei gasglu yn cael ei ddychwelyd i swyddfa MEC ac yn cael ei gadw tan 30 Mawrth 2023. Bydd eiddo coll yn cael ei ddychwelyd ar ôl derbyn y gost i’w bostio.
Dd) Yswyriant
a) Mae gwersylloedd wedi’u diogelu gan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus MEC. Argymhellir bod pob gwersyllwr yn cymryd yswiriant gwyliau personol.
E) Diogelu Data
a) Mae eich preifatrwydd yn cael ei gymryd o ddifrif. Dim ond i weinyddu’ch cyfrif a darparu’r cynhyrchion/gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt y defnyddir eich gwybodaeth bersonol. Ni fyddwn byth yn trosglwyddo eich gwybodaeth i drydydd parti.