Beth yw MEC a phwy sy’n rhedeg y gwersylloedd?
Gofynwn i bob rhiant ddarllen ein tudalen ddiogelu cyn gadael i’w plentyn gymryd rhan yn ein gweithgareddau, yma.
Elusen gofrestredig yw Mudiad Efengylaidd Cymru (MEC) sydd wedi bod yn rhedeg gwersylloedd ers dros 55 o flynyddoedd. Mae holl staff y gwersylloedd yn Gristnogion sydd wedi derbyn gwiriad DBS a geirda er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer gweithio gyda plant. Mae’r gweithwyr yn derbyn hyfforddiant ac yn dilyn polisi diogelu MEC. Bydd person a chymhwyster cymorth cyntaf ar bob gwersyll.
Sut bydd fy mhlentyn yn derbyn gofal yn ystod yr gwersyll?
Bydd tua 1 gweithiwr i bob 4 gwersyllwr a bydd y gwersyllwyr yn cael eu gosod mewn dorm gyda gwersyllwyr eraill o tua’r un oed. Bydd o leiaf un swyddog yn derbyn cyfrifoldeb bugeiliol dros bob dorm. Bydd yr arweinwyr a’r caplan hefyd yn helpu i orchuchwylio’r plant.
Beth sy’n digwydd yn ystod y gwersyll?
Mae ystod eang o weithgareddau ym mhob gwersyll, yn cynnwys chwaraeon, celf a chrefft, gemau gwirion, tripiau, tenis bwrdd a nofio. Bydd rhywbeth at ddant pawb. Pan fydd modd byddwn yn defnyddio darparwyr trwyddedig ar gyfer Gweithgareddau Antur. Gyda’r nos bydd adloniant a digon o chwerthin. Bydd amser yn cael ei osod o’r neilltu hefyd i glywed anerchiadau Cristnogol ac i astudio’r Beibl mewn grwpiau bach. Dyma sy’n gwneud gwersylloedd MEC yn achlysuron mor arbennig.
Beth fydd yn digwydd bob dydd?
Bydd bob diwrnod yn wahanol. Ond er mwyn rhoi blas i chi, dyma enghraifft fras: digon o fwyd da, twrnamentau, chwaraeon a gemau, ymlacio a chymdeithasu, crefftau, astudiaethau Beiblaidd yn addas i oed y gwersyllwr, canŵio neu nofio, tripiau, eisteddfod, gemau parti a… chysgu (gobeithio).
Gwersyll MEC PROMO2015 from EMW/MEC on Vimeo.
10 Rheswm da i yrru eich plentyn ar wersyll MEC
Mae Gwersylloedd yn llawn hwyl a sbri. Ond oes mwy o resymau na hyn am yrru eich plentyn ar wersyll? Dyma ddeg rheswm ychwanegol dros yrru eich plentyn ar un o wersylloedd MEC.
1. Yn eu helpu i fagu perthnasau a ffrindiau
Mae’r cyfle ar y gwersyll i wneud ffrindiau newydd gyda phlant o bob rhan o Gymru. Mae hyn yn helpu’r plant i deimlo yn fwy hyderus yn gymdeithasol.2. Dangos amrywiaeth i’r plant
Mae gwersyll yn rhoi’r cyfle i blant weld a dod i gysylltiad gyda phlant a phobl ifanc o gefndiroedd gwahanol. Dysgant mewn awyrgylch saff fod amrywiaeth o bobl yn y byd, sy’n gwneud pethau’n wahanol! Gwelant hefyd hyn yn eu perthynas gyda’r swyddogion ac arweinwyr.3. Codi hunanhyder
Mae bod mewn awyrgylch lle nad yw Mam neu Dad o gwmpas i helpu i wneud cysylltiadau yn gallu bod yn llesol iawn i blant. Mewn ymchwil diweddar dywedodd 92% o blant a fynychodd wersyll fod eu cyfoedion ar y gwersyll wedi eu helpu i deimlo’n well amdanynt eu hunain. (American Camp Association)4. Rhoi atgofion hyfryd
Mae’r atgofion a geir ar wersylloedd yn aros gyda phlentyn am fywyd. Ble arall y cewch gyfle i wneud gymaint o bethau doniol a bythgofiadwy?5. Rhoi cyfle i blant ymchwilio i neges y Beibl
Mae’r gwersylloedd yn rhoi cyfle i blant glywed a dysgu am neges y Beibl mewn ffordd berthnasol iddynt. Maent yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod mewn awyrgylch saff. Ni fydd pwysau annheg byth yn cael ei roi ar blentyn i gredu unrhyw beth na gwneud penderfyniad dros gredu.6. Datblygu annibyniaeth
O dan arweiniad y swogs ar arweinwyr mae’r plant yn cael eu harfogi ar wersyll i edrych ar ôl eu hunain. Er bod llwyth o weithgareddau wedi eu trefnu, mae’n rhaid i’r plant gael eu hunain yn barod a dangos mesur o ofal dros eu hunain.7. Yn eu cael i symud!
Mae gwersyll yn gadael i blant fod yn blant eto! Mae’r byd wedi newid llawer gyda ffonau ayb ym mhob man bellach. Caiff plant ar y gwersyll eu gwthio i godi oddi ar eu penolau ac i fod yn weithgar.8. Magu cymeriad
Mae’r gwersyll yn rhoi cyfle i blant wneud penderfyniadau ac arwain o fewn gweithgareddau. Golyga hyn fod y plant yn llai tebyg o gael eu heffeithio gan bwysau pan fyddant adref gyda’u ffrindiau.9. Datblygu diddordebau
Mae gwersylloedd yn rhoi’r cyfle i feithrin diddordebau mewn pethau gwahanol. Dros yr wythnos bydd y plant yn cymryd rhan mewn llwyth o weithgareddau amrywiol. Gall y plentyn barhau gyda’r diddordeb yma wedi dod ‘nôl o’r gwersyll yn aml.10. Mae’n llenwi wythnos o’r gwyliau!
Mae’r gwyliau yn gallu bod yn hir – ac felly mae gwersyll yn fan i blentyn fynd a chael hwyl mewn awyrgylch saff ac iach (a hefyd rhoi amser i ffwrdd i’r rhieni!)