1. Archebu
a) Bydd archebion ar gyfer Gwersylloedd yr Haf 2023 yn agor am 10 y bore ar Ddydd Mercher 1af o Fawrth 2023. Rhaid archebu ar-lein trwy wefan MEC.
b) Cymerir archebion trwy brynu tocynnau i’r gwersyll(oedd) – ni fydd angen i chi nodi manylion y plentyn/plant ar hyn o bryd, heblaw am eu enw(au). Gallwch brynu mwy nag un tocyn (hyd at gyfanswm o 4 i fechgyn a 4 i ferched ar bob gwersyll).
c) Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Os yw gwersyll yn llawn, gallwch gysylltu â’r swyddfa i gael eich rhoi ar restr aros (e-bostiwch swyddfa@mudiad-efengylaidd.org gyda’r gwersyll sydd ei angen arnoch a manylion y plentyn).
ch) Bydd blaendal o £30 y tocyn (na ellir ei ad-dalu) yn cael ei gymryd gyda’ch archeb gychwynnol a bydd yn eich galluogi i gwblhau’r broses archebu (fel y nodir isod).
d) Anfonir cadarnhad dros e-bost o fewn 15 diwrnod gwaith i ni dderbyn eich archeb (os oes problem gyda’ch archeb byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosibl).
2. Cadarnhau lle eich plentyn ar y Gwersyll
a) Bydd eich e-bost cadarnhad yn cynnwys dolen i ffurflen ar-lein yn gofyn am wybodaeth pob plentyn (gan gynnwys manylion personol, gwybodaeth feddygol, ac os oes unrhyw anghenion penodol y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt) – rhaid i riant neu warcheidwad y plentyn lenwi’r ffurflen hon. Byddwch chi/nhw yn cael y cyfle ar y cam hwn i wneud cais am unrhyw fwrsarïau a gostyngiadau. Gofynnwn i’r ffurflen hon gael ei chwblhau o fewn 14 diwrnod o’i derbyn, neu gallwch fforffedu eich tocyn gwersyll a cholli’r blaendal.
b) O fewn 15 diwrnod gwaith o dderbyn y ffurflen hon, anfonir e-bost atoch yn cadarnhau’r swm sy’n weddill i’w dalu am y gwersyll(oedd) a chyfarwyddiadau talu. Rhaid talu’r balans yn llawn erbyn 31 o Fai 2023, a gellir ei wneud gyda cherdyn credyd/debyd, siec, ar-lein neu mewn rhandaliadau misol.
c) Bydd llythyr gan Arweinydd y Gwersyll yn cael ei anfon cyn y gwersyll(oedd) o’ch dewis yn cynnwys trefniadau terfynol y digwyddiad.
3. Bwrseri a Gostyngiadau
a) Gostyngiadau i frodyr a chwiorydd – Mae gan bob brawd neu chwaer hawl i un gostyngiad o £20 i frodyr a chwiorydd. Dim ond un gostyngiad y maent yn gymwys, hyd yn oed os ydynt yn mynychu gwersylloedd lluosog.
b) Mae cronfa Anti Bessie ar gael i’r rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol (neu debyg). Gallwch wneud cais am fwrsari (£50 ar gyfer y Mini Gwersyll, £125 ar gyfer gwersylloedd yr haf) drwy anfon llungopi prawf cymhwysedd i MEC (swyddfa@mudiad-efengylaidd.org, neu Gwersylloedd MEC, 31 Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2EU). Mae bwrsari o gronfa Anti Bessie yn gyfyngedig ac yn dibynnu ar argaeledd.
4. Newidiadau a Chanslo
a) I newid eich archeb cysylltwch â swyddfa MEC ar unwaith. Efallai y bydd tâl gweinyddol o £10 y tocyn yn daladwy. Sylwch nad yw lleoedd yn drosglwyddadwy.
b) Canslo: cysylltwch â ni ar unwaith os hoffech ganslo eich archeb. Rhoddir ad-daliad llawn (llai’r blaendal) am ganslo a roddir 28 diwrnod cyn dechrau’r gwersyll perthnasol. Bydd canslo a wneir rhwng 8-27 diwrnod cyn dechrau’r gwersyll yn derbyn ad-daliad o 50% (llai blaendal). Ni fyddwn yn gallu ad-dalu tocynnau o fewn 7 diwrnod i ddechrau’r gwersyll.
c) Bydd ffioedd llawn (llai blaendal) yn cael eu had-dalu am salwch ardystiedig ar ôl derbyn y prawf. Rhowch wybod i Swyddfa MEC ar unwaith, ac anfonwch brawf i: swyddfa@mudiad-efengylaidd.org, neu Gwersylloedd MEC, 31 Ffordd Caergybi, Bangor LL57 2EU.
5. Cod Ymddygiad
Er mwyn i Wersylloedd MEC weithredu’n ddiogel er lles pawb, mae yna reolau a safonau ymddygiad y disgwyliwn i wersyllwyr eu parchu trwy gydol y gwersyll.
- Cymryd Rhan: Rhaid i bob gwersyllwr gymryd rhan ym mhob gweithgaredd, yn cynnwys y cyfarfodydd dyddiol a’r astudiaethau Beiblaidd.
- Diogelwch: Er eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill, disgwylir i bob gwersyllwr ddilyn cyfarwyddiadau’r arweinwyr a’r swyddogion yn ystod holl weithgareddau’r wythnos.
- Difrod a Dwyn: Bydd unrhyw wersyllwr sy’n achosi niwed bwriadol i adeilad neu eiddo’r Ganolfan, neu eiddo rhywun arall, yn gyfrifol am gost trwsio/adnewyddu.
- Llety: Ni chaiff unrhyw wersyllwr fynd i ystafell gwersyllwr o’r rhyw arall. Ni chaniateir i chi fynd i ystafell gwersyllwr arall heb wahoddiad.
- Dillad Nofio: Gall rhai gwersylloedd ddefnyddio llithriad dŵr neu fynd i nofio fel gweithgaredd. Gofynnwn i ferched wisgo siwt nofio un-darn, a bechgyn i wisgo siorts (need speedos neu debyg). Byddai siorts a chrys-t hefyd yn addas i fechgyn neu ferched.
- Ymddygiad Personol: Bydd angen safonau ymddygiad derbyniol. Ymdrinnir yn gadarn ag ymddygiad nad yw’n dderbyniol.
- Ysmygu, ‘Vaping’, ac Alcohol: Ni chaniateir i chi yfed alcohol tra rydych ar y gwersyll. Ni chaniateir ysmygu a ‘vaping’ mewn unrhyw ran o’r canolfannau, eu tiroedd, nac yn ystod unrhyw dripiau a threfnir. Rhaid cyflwyno unrhyw offer ysmygu neu ‘vapes’ ar ddechrau’r gwersyll. Gall rhieni gysylltu ag arweinydd y gwersyll yn uniongyrchol i drafod amgylchiadau eithriadol.
- Offer Sain ac Adloniant Personol: Er mwyn diogelwch, cyfathrebu da ac osgoi tarfu ar y gwersyll, ni chaniateir defnydd cyfarpar sain/adloniant personol e.e. chwaraewyr MP3, iPads, gemau cyfrifiadurol, gor-ddefnydd o ffonau symudol ayyb).
- Ceir: Gofynnwn i wersyllwyr hŷn (os ydynt yn gyrru ceir eu hunain i’r gwersyll) i beidio â defnyddio eu ceir yn ystod y gwersyll, gan fydd unrhyw angen i deithio yn cael ei drefnu gan y gwersyll.
Rhaid i bob gwersyllwr arwyddo’r datganiad ar y ffurflen archebu, gan ddangos eu parodrwydd i barchu’r Cod Ymddygiad. Bydd ymddygiad bwriadol neu gyson sy’n groes i’r Cod yn gallu arwain at waharddiad o’r gwersyll heb ad-dalu ffioedd.
6. Gwersyllwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy’n cynnwys anableddau
Rydym yn gwneud pob ymdrech ar wersylloedd MEC i ddarparu ar gyfer gwersyllwyr sydd ag anghenion a galluoedd amrywiol. Mae’n bwysig iawn felly bod y ffurflen gwybodaeth feddygol a phersonol yn cael ei chwblhau’n gywir ac yn onest gan rieni fel y gallwn sicrhau bod y gwersyll yn ddiogel a bod ganddo adnoddau digonol. Os bydd gwersyllwr yn cyrraedd y gwersyll ag anghenion sylweddol wahanol i’r hyn a hawliwyd ar y ffurflen, rydym yn cadw’r hawl ar sail diogelwch i gysylltu â’r rhiant i fynd â’r plentyn adref (heb ad-daliad). Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ffoniwch y swyddfa cyn gynted â phosibl i drafod unrhyw anghenion neu gwestiynau.
7. Alergeddau bwyd ayyb
Rydyn ni’n deall bod materion ynglyn ag alergeddau bwyd yn gallu bod yn ddifrifol iawn. Gan ein bod yn paratoi pob math o fwydydd yn ein cegin, ac er ein bod yn gweithredu mewn ffordd gydwybodol, yn anfwriadol mae risg y bydd rhai alergeddau yn croes halogi. Wrth fwcio rydych yn cytuno eich bod wedi deall y risg. Plîs cysylltwch gyda’r swyddfa, arweinydd eich gwersyll neu cogydd y gwersyll os ydych chi’n pryderi am alergeddau bwyd.
8. Yswiriant
a) Mae gwersylloedd wedi’u diogelu gan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus MEC. Argymhellir bod pob gwersyllwr yn cymryd yswiriant gwyliau personol.
9. Diogelu Data
a) Mae eich preifatrwydd yn cael ei gymryd o ddifrif. Dim ond i weinyddu’ch cyfrif a darparu’r cynhyrchion/gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt y defnyddir eich gwybodaeth bersonol. Ni fyddwn byth yn trosglwyddo eich gwybodaeth i drydydd parti.