Fel bod gwersylloedd MEC yn gallu rhedeg yn ddiogel er lles pawb mae rheolau a safonau ymddygiad y disgwyliwn i wersyllwyr eu parchu yn ystod y gwersyll.
- Rhaid i bob gwersyllwr gymryd rhan ym mhob gweithgaredd, yn cynnwys y cyfarfodydd dyddiol a’r astudiaethau Beiblaidd.
- Disgwylir i bob gwersyllwr ddilyn cyfarwyddiadau’r arweinwyr a’r swyddogion yn ystod y gweithgareddau.
- Ni chaiff unrhyw wersyllwr fynd i ystafell gwersyllwr o’r rhyw arall.
- Bydd unrhyw wersyllwr sy’n achosi niwed bwriadol i adeilad neu eiddo rhywun arall yn gyfrifol am gost trwsio/adnewyddu.
- Ni chaniateir alcohol/ysmygu.
- Ni chaniateir ‘energy drinks’ o unrhyw fath e.e. Red Bull, Monster. Mae hyn yn cynnwys gwaharddiad ar brynu nhw yn ystod y gwersyll.
- Ni chaniateir defnydd cyfarpar sain/adloniant personol.
Rhaid i bob gwersyllwr arwyddo’r datganiad ar y ffurflen archebu, gan ddangos eu parodrwydd i barchu’r Côd Ymddygiad. Bydd ymddygiad bwriadol neu gyson sy’n groes i’r Côd yn gallu arwain at waharddiad o’r gwersyll heb ad-dalu ffioedd.