Mae Gwersylloedd Preswyl MEC yn ôl ar gyfer 2022. Ymunwch â ni am wythnos o hwyl, ffrindiau ac o ddysgu mwy am Iesu.
Beth sy’n gwneud gwersylloedd MEC mor anhygoel o wych?
- Efallai mai’r gweithgareddau awyr agored fel canŵio, hwylio, caiacio, syrffio, saethyddiaeth, cerdded ceunant, ogofa, abseilio neu ddringo.
- Efallai mai’r tripiau i’r traeth, chwaraeon gwirion, celf, crefft, twrnameintiau, pêl-droed, tenis bwrdd, pwll nofio.
- Efallai mai’r cyfle i archwilio ystyr bywyd o’r Beibl.
- Efallai mai’r ffrindiau gwych rydych chi’n eu gwneud, yr arweinwyr hwyliog a’r awyrgylch ffantastig!
Ond mae’r mwyafrif o wersyllwyr yn caru gwersylloedd MEC oherwydd eu bod yn cynnwys cymysgedd anhygoel o’r holl bethau hyn.
Pa bynnag wersyll rydych chi’n mynd arno, rydych chi’n siŵr o wneud ffrindiau newydd, gwneud pethau newydd ac anhygoel, ac yn bwysicaf oll, clywed am Iesu a’i gariad tuag atoch chi.
Dilynwch un o’r dolenni isod i gael cip ar ein dewisiadau o wersylloedd ar gyfer 2022!
- Mini Gwersyll 2022 – Methu aros tan yr haf? Peidiwch poeni, ymunwch gyda Steffan, Sioned, Aron a’r holl swogs eraill hanner tymor fis Chwefror!
- Gwersylloedd yr Haf – Dau wersyll llawn hwyl yn ystod Gwyliau’r Haf.
I lawrlwytho’r daflen archebu i’w ddosbarthu mewn eglwysi, cliciwch yma: BrochureGwersyll