Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Galwad i Weddi

Ceisio'r Arglwydd gyda'n gilydd

Mae MEC yn fwy argyhoeddedig nag erioed o’r angen am weddi ac felly rydym yn parhau gyda’n Galwad i Weddi i annog Cristnogion i ymuno â ni i weddïo dros Gymru yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth.

Pam Galwad i Weddi?

Gwyddom fod ein bywyd gweddi yn rhan allweddol o’n disgyblaeth a’n cymdeithas â Duw ac nid oes gennym unrhyw awydd i dynnu Cristnogion o’r materion hynny y maent eisoes yn gweddïo amdanynt. Ein dymuniad yn syml yw annog gweddi am fendith Duw ar ein tir ac ar bopeth a wnawn fel Mudiad, i feithrin mwy o ymdeimlad o undod, ac i’n helpu i ganolbwyntio ein llygaid ar Dduw, sef ein gobaith.

Gweddïwn y bydd yr Alwad yn anogaeth ichi yn eich cerddediad gyda Duw a hyderwn y bydd yn galondid ichi ganolbwyntio ar ein Duw mawr a gogoneddus.

Sut i ddefnyddio’r Alwad i Weddi?

Bob dydd byddwn yn canolbwyntio ar wirionedd gwahanol am Dduw trwy ddarlleniadau o’r Beibl, defosiwn byr, rhai cwestiynau ar gyfer myfyrdod a phwyntiau gweddi. Bydd y cynnwys yn cael ei bostio ar-lein isod (ar y wefan a thrwy gyfryngau cymdeithasol) a’i anfon trwy e-byst (gallwch optio i mewn yma). Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r canllaw bob dydd am wythnos (ynghyd â channoedd o Gristnogion eraill) neu efallai yr hoffech chi ei ddefnyddio dros sawl wythnos. Mae croeso i chi ei ddefnyddio yn y ffordd y mae’r Arglwydd yn eich tywys, a rhannwch ef gydag eraill yn eich eglwys hefyd.

Cyfarfodydd Gweddi Ar-lein

Nid ydym am dynnu oddi wrth gyfarfodydd gweddi Eglwys, ond mae profiad diweddar wedi dangos inni y gall dod â Christnogion ynghyd o wahanol rannau o’r wlad fod yn galonogol iawn. Rydym felly wedi trefnu dau gyfarfod gweddi ar-lein i ddod â phobl ynghyd i weddïo ar y dyddiadau canlynol:

  • 2il Mawrth – Dydd Mawrth – 11.00 y bore
  • 6ed Mawrth – Dydd Sadwrn – 4.00 y pnawn

 

Gallwch gofrestru ar gyfer y cyfarfodydd gweddi hyn isod.