Rydym yn ddibynol ar Dduw ym mhob ffordd. Hebddo, ni allwn wneud dim, ond medrwn wneud pob dim drwy’r Un sy’n ein nerthu. Mae gweddi yn rhan holl bwysig o waith MEC.
Rydym wedi bod yn edrych ar ein gweinidogaeth gweddi ac rydym am wneud ychydig o newidiadau. Gweler isod.
Gweinidogaethau gweddi:
- Mae MEC yn gyrru llythyr gweddi dros ebost bob wythnos sydd yn annog gweddi ac yn rhannu newyddion am weinidogaethau MEC a gwaith yr efengyl o gwmpas Cymru. Mae modd cyfrannu i’r llythyr hwn.
- Er mwyn derbyn y llythyr gweddi, cliciwch yma
- Er mwyn cyflwyno pwynt gweddi ar gyfer y llythyr, cliciwch yma
Bwletin Gweddi a Newyddion
- Rydym yn gyrru gwybodaeth allan am weinidogaeth arbennig – e.e. ymgyrch neu adnoddau. Medrwch ychwanegu eich enw i fynd ar un o’r rhestrau hyn yma (Sylwch nad yw’r bwletinau yma yn cael eu cyhoeddi ar lein).
- Bwletinau sydd gennym ar hyn o bryd – Cynadleddau a Digwyddiadau MEC, Gwersylloedd MEC, Ymgyrchoedd ac Efengylu (gan gynnwys yr Eisteddfod a gwaith y Sioeau), Gweinidogion, Adnoddau’r Wasg (gan gynnwys Holi a’r Cylchgrawn), Bryn y Groes (Dwyieithog).
Wythnos weddi MEC (gan gynnwys diwrnod gweddi)
- 1-7 Mawrth 2021, mwy o wybodaeth yma