Ymgyrch Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022
Ble?
Tregaron
Pryd?
30 Gorffennaf – 6 Awst
Pwy?
Bydd y tim yn cael ei arwain gan Steffan Job ac yn cynnwys aelodau sefydlog o’r tîm (fydd yno drwy’r wythnos), ac aelodau eraill o’r tîm fydd yn teithio i mewn bob diwrnod.
Iaith?
Cymraeg yn bennaf
Beth fydd yn digwydd?
Byddwn yn dilyn y thema ‘Bywyd: Beth yw dy stori di?’ gan wahodd pobl i ddod i mewn am baned ac ateb holiadur. Byddwn yn cynnig copi o’r cylchgrawn Holi i bobl yn rhad ac am ddim.
Mwy o wybodaeth?
Steffan Job – steffanjob@mudiad-efengylaidd.org