Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Ymgyrchoedd Cenedlaethol 2023

Ymgyrchoedd Cenedlaethol 2023

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni pa mor bwysig oedd geiriau Iesu i’r disgyblion wedi iddo atgyfodi  “Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” (Ioan 20:21). Yn wyneb newidiadau mewn cymdeithas rydym fel Cristnogion yn gweld fod neges yr efengyl yn ein gorfodi i sefyll allan fel yr oedd yn rhaid i Grist ei wneud. Mae’n gymaint o gysur gweld Cristnogion ar draws ein gwlad yn sefyll yn gadarn ac yn estyn allan mewn trugaredd gydag efengyl Crist.

Unwaith eto eleni fe fydd tîm o Gristnogion o eglwysi gwahanol yn mynd ati i geisio rhannu’r efengyl gydag eraill yn rhai o’n Gwyliau mwyaf poblogaidd. A wnewch chi bartneru gyda ni?

Lle a Phryd?

  • Gŵyl y Gelli (25-29 Mai)
  • Sioe Frenhinol Amaethyddol Llanelwedd (24-27 Gorffennaf)
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tregaron (5-12 6 Awst)

Beth fydd yn digwydd?

Bydd gan bob dîm arweinydd profiadol a fydd yn arwain tîm o Gristnogion i geisio rhannu’r newyddion da am Iesu mewn ffordd sensitif ac effeithiol. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gynnal sgyrsiau, cynnig paneidiau, holiaduron, arddangosfeydd, rhannu deunyddiau a gweddïo. Ein thema eleni yw ‘Bywyd: Beth yw dy stori di?’, a byddwn yn annog pobl i feddwl am dri gair i ddisgrifio eu bywyd (isod gweler fideo o’r ymatebion a gafwyd wrth wneud hyn rai blynyddoedd yn ôl).

Pam gwneud hyn?

Mae tair prif amcan i’r gwaith:

  • Yn gyntaf mae’n bwysig ein bod fel Cristnogion yn cymryd rhan ac yn cefnogi digwyddiadau mawr cenedlaethol er mwyn bod yn halen a goleuni yn ein gwlad.
  • Yn ail, mae’n gyfle i gefnogi eglwysi Cymru drwy roi hyfforddiant a chyfle i Gristnogion rannu eu ffydd gydag eraill. Gweddïwn y bydd doniau a hyder yn cael eu magu ac yn mynd yn ôl i’r sefyllfa leol at ddefnydd eglwysi o ddydd i ddydd.
  • Yn olaf, mae’n gyfle i rannu’r efengyl gyda miloedd o eneidiau coll sydd heb gyswllt a chapel na Christion.

 

Sut fedrwch chi ymuno?

  1. Gweddïo. Dyma’r prif angen gan ein bod yn hollol ymwybodol nad oes modd newid unrhyw galon heb i Dduw weithio. Rydym yn annog gymaint o Gristnogion a phosib i ymuno gyda ni i weddïo am y gwaith (gellir cael pwyntiau gweddi ac adroddiadau drwy ymuno gyda’r rhestr ebost yma)
  2. Cyfrannu. Os ydych yn byw yn agos i un o’r digwyddiadau, rydym wastad yn chwilio am lety a phobl leol i gyfrannu pecynnau bwyd ayyb. Mae hefyd yn gostus iawn bellach i redeg ymgyrchoedd mewn digwyddiadau cenedlaethol. Amcangyfrifir y bydd y dair ymgyrch yn costio oddeutu £10,000 i’r Mudiad eleni. Gellir cyfrannu drwy’r wefan, y post, neu drwy gysylltu gyda’r swyddfa yn uniongyrchol.
  3. Camu allan. Os oes gennych galon dros y colledig ac am wasanaethu Duw, yna plîs cysylltwch gyda ni. Does dim angen dawn arbennig i rannu eich ffydd, ac fe fydd digon o help yn cael ei roi yn ystod y digwyddiadau i chi gan sicrhau na fydd neb yn cael eu gwthio i wneud dim nad ydynt am ei wneud. Boed am ychydig oriau, am ddiwrnod neu am wythnos gyfan – fe fydd croeso arbennig i chi ar un o’n timau. Cysylltwch gyda Steffan Job am fwy o wybodaeth.

 

 

 

Lluniau o rai o’n hymgyrchoedd diweddar