Ein prif awydd fel mudiad yw helpu a rhoi cymorth i Eglwysi a Christnogion i estyn allan yn eu cymuned lleol gyda neges yr efengyl – rydym wedi helpu dros 70 o eglwysi yn y blynyddoedd diwethaf yn barod.
Rydym yn hyblyg yn y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Isod ceir rhestr o’r pethau gwahanol y medrwn ei gynnig. I drafod unrhywbeth cysylltwch gyda ni.
Cymorth i ymweld a Sioe, Ffair, Garnifal neu ddigwyddiad cymunedol.
- Byddwn yn trafod gyda’r eglwys/Cristion i weld beth sydd ei angen ac yna’n mynd ati i helpu. Gallai hyn olygu darparu pabell, adnoddau gwneud paned, adnoddau efengylu neu hyd yn oed dim o wirfoddolwyr i helpu.
- (cliciwch yma am esiamplau o’r hyn sydd wedi ei wneud o’r blaen)
Cymorth i redeg ymgyrch leol.
- Byddwn yn trafod gyda’r eglwys/Cristion i weld beth sydd ei angen ac yna’n mynd ati i helpu. Rydym wedi helpu dros 50 o eglwysi yn y modd hyn yn y blynyddoedd diwethaf gan redeg nifer o ymgyrchoedd a digwyddiadau gwahanol.
- (cliciwch yma am esiamplau o’r hyn sydd wedi ei wneud o’r blaen)
Cymorth i greu adnodd.
- Byddwn yn trafod gyda’r eglwys/Cristion i weld beth sydd ei angen. Rydym wedi helpu eglwysi i greu baneri, tractiau, cylchgronau a phapurau newydd yn y gorffenol.
- (cliciwch yma am esiamplau o’r hyn sydd wedi ei wneud o’r blaen)
Mae’r cymorth y medrwn ei roi yn amrywiol gan gynnwys:
- Gwirfoddolwyr
- Arian
- Adnoddau
- Sgiliau a doniau
- Cyngor
Nid ydym am roi enw MEC ar unrhyw ddigwyddiad lleol – helpu a rhoi cymorth i eglwys neu grwp lleol yw’r nod. Bydd disgwyl i eglwys/Gristion sy’n cydweithio gyda MEC fedru cytuno a datganiad ffydd sylfaenol.