Partneriaeth yw’r gwaith, ac rydym yn hollol ddibynnol ar gymorth. Medrwch helpu mewn tri ffordd:
Gweddi
Ymunwch gyda’n rhestrau e-byst i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf er mwyn medru gweddïo dros y Gwaith (yma).
Cyfrannu
Mae rhedeg y gweinidogaethau a’r ymgyrchoedd hyn yn medru bod yn gostus, ac rydym yn ddibynnol ar roddion. Gellir cyfrannu drwy’r wefan (yma), drwy yrru sieciau i swyddfa’r Gogledd, neu drwy gysylltu gyda’r swyddfa yn uniongyrchol. Gwelir enghreifftiau o gostau isod:
- bydd £6,000 yn rhedeg ymgyrch wythnos mewn digwyddiad cenedlaethol (e.e. Yr Eisteddfod);
- bydd £1,000 yn darparu pum mil o bapurau newydd i eglwys fedru rhannu yn eu hardal leol;
- bydd £300 yn darparu pecyn o adnoddau ac offer i griw o Gristnogion ymweld â sioe leol;
- bydd £100 yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant i un Cristion ifanc ymuno gydag ymgyrch am wythnos;
- bydd £50 yn talu am 100 copi o Holi/Ask.
Ymuno
A oes gennych chi’r baich i ymuno gyda’r gwaith? Rydym bob tro yn chwilio am wirfoddolwyr boed hynny fel aelodau o dimoedd efengylu, i helpu gyda threfniadaeth y gwaith neu i gludo offer – mae rhywbeth i bawb! Defnyddiwch y ffurflen i gysylltu gyda Steffan neu Dave yma.