Rydym yn byw mewn sefyllfa genhadol lle mae angen i bob person yng Nghymru glywed yr efengyl a phrofi gwaith yr Ysbryd yn eu newid. Rydym yn gwneud hyn drwy:
- Annog a darparu gwybodaeth i bobl weddïo dros waith Duw yn ein gwlad;
- Arfogi ac annog Cristnogion ac eglwysi i estyn allan gyda neges yr efengyl;
- Gweithio mewn mannau lle nad oes tystiolaeth Gristnogol gryf.
Isod fe geir gwybodaeth am y ffyrdd yr ydym yn helpu ac annog efengylu yng Nghymru.
Ymgyrchoedd Diweddaraf
- I weld rhestr ddiweddaraf o’r ymgyrchoedd ar ffurf calendr (yma)
Gweithio’n Genedlaethol
- tra’n hyfforddi ac annog Cristnogion i rannu eu ffydd (e.e. Yr Eisteddfod neu’r Sioe Fawr yn Llanelwedd)
Rhoi cymorth i Eglwysi a Christnogion i estyn allan yn eu cymuned leol gyda neges yr efengyl.
- Down ochr yn ochr gyda eglwys neu Gristnogion i weithio’n lleol, boed hynny mewn sioe leol, carnifal ar y stryd neu mewn ymgyrch fwy.
Darparu adnoddau i helpu Cristnogion rannu eu ffydd.
- Gweler y dudalen adnoddau (yma).
Gweddi
- Gweler y dudalen i dderbyn gwybodaeth am weddi (yma)
Am gymorth?
- Am fwy o wybodaeth neu i ofyn am gymorth cysylltwch gyda ni drwy’r dudalen cysylltu.
Am gefnogi’r gwaith?
- Gellir cefnogi’r gwaith drwy ymuno, gweddio neu’n ariannol. Mwy o wybodaeth yma.