Mae Darganfod Cristnogaeth yn gwrs deg wythnos sydd a’r bwriad o gyflwyno pobl i’r Arglwydd Iesu Grist.
Wrth i efengyl Marc gael ei ddarllen, mae’r rhai sy’n dilyn y cwrs yn cael cyfle i ddarganfod gwir neges Cristnogaeth drwy edrych ar dri chwestiwn:
- Pwy oedd Iesu?
- Pam y daeth ef?
- Beth mae ei ddilyn ef yn ei olygu?
Mae Darganfod Cristnogaeth yn gyfieithiad o’r cwrs Saesneg ‘Christianity Explored’ a ysgrifennwyd gan Rico Tice, Barry Cooper a Sam Shammas.
Am fwy o wybodaeth am y cwrs gwreiddiol cliciwch ar y ddolen:
Gweinyddir a chynhyrchwyd y testun Cymraeg gan Wasg Bryntirion ar ran Mudiad Efengylaidd Cymru.
Adnoddau sydd ar gael
- Llawlyfr Astudio (ar gyfer pob person sy’n cymryd rhan yn y cwrs) – Ar gael drwy ddilyn y ddolen isod.
- Copiau caled o’r sgyrsiau (10 i gyd) i gyd fynd gyda phob sesiwn – ar gael o’r wefan hon
- Cyflwyniadau PowerPoint (10 i gyd) i gyd fynd gyda phob sesiwn – ar gael o’r wefan hon
- Posteri er mwyn hysbysebu eich cwrs – ar gael o’r wefan hon
- I lawrlwytho’r adnoddau o’r wefan ewch i’r adran adnoddau a chwilio’r thema Darganfod Cristnogaeth
Prynu y llawlyfr
Gellir prynu y llawlyfr ar y telerau isod:
- Copiau unigol – £3 yr un
- Pecyn bach (10 copi) – £20
- Pecyn Canolig (25 copi) – £25
- Pecyn Mawr (50 copi) – £35
Dilynwch y ddolen hon er mwyn archebu ar lein