Rydym yn siop lyfrau fechan wedi ei lleoli ym marchnad Abertawe. Er nad oes lle ganddom i stocio pob llyfr Cristnogol, mae ganddom y gallu i archebu llyfrau a’u dosbarthu o fewn 24 awr.
Rydym yn gwerthu Beiblau, esboniadau, nodiadau beiblaidd, llyfrau, dyddiaduron, Cdau a DVDau, llyfrau Cerddoriaeth, llyfrau plant a chardiau. Gweler ein tudalen Facebook am fwy o fanylion. Rydym yn hapus i bostio eitemau os nad ydych yn medru dod i’r siop.
Rheolwr y siop yw Rosemary, sy’n gweithio gyda Linda, Marie, a nifer o wirfoddolwyr eraill. Os hoffech wirfoddoli, yna galwch i mewn i’n gweld.
- Siop Llyfrau Abertawe,
16e/f The Market,
Abertawe,
SA1 3PF
Ffon: 01792 650773 - Ebost: swanseabooks@emw.org.uk
Mae gan y siop wefan arall – swanseachristianbks.wix.com/bookshop