Dros y blynyddoedd cafodd Gwynn Williams sawl cais i gyhoeddi rhai o’i bregethau, boed yn gyfresi neu’n bregethau unigol, ond ni theimlodd yn rhydd i wneud llawer o hynny ar y pryd. Bellach oherwydd cyfyngiadau iechyd, a’r posibilrwydd na fydd yn pregethu ond yn anaml bellach, perswadiwyd ef i fwrw ati i gyhoeddi rhai pethau.
Y bwriad yw cyhoeddi dilyniant o lyfrynnau, fydd yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd yn dymuno eu derbyn.
Ar gael hyd yn hyn:
- Llyfryn 1 Joel: Proffwyd Galar a Gobaith
- Llyfryn 2 Yr Oen ar ei Orsedd: Golwg ar Esgyniad Iesu Grist
- Llyfryn 3 Dal Ati: Anogaeth i Gristnogion Heddiw
- Llyfryn 4 ‘Cymer Arglwydd …’: Agwedd y Cristion at Arian ac Eiddo
- Llyfryn 5 Malachi: Proffwyd Barn a Bendith
- Llyfryn 6 Yr Hen Hen Hanes: Newyddion Da i Bawb Heddiw
Bydd llyfrynnau eraill yn dilyn gobeithio yn rheolaidd, tuag unwaith y mis yw’r nod. Gall unigolion neu eglwysi gysylltu i dderbyn copi/ïau yn rhad ac am ddim.
Mae modd archebu’r llyfrynnau hyn drwy:
- 1. Anfon llythyr at Dafydd Picton Jones, Swyddfa’r Gogledd, Mudiad Efengylaidd Cymru, 31 Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2EU
- 2. Ar wefan yma isod
Fe’u hanfonir atoch trwy’r post wrth iddynt ymddangos.
Os hoffech gefnogi yr ymdrech yn ariannol mae croeso i chi ddanfon rhoddion at
- Miss Rhian Williams, 22 Heol Cae Rhys, Rhiwbina, Caerdydd CF14 6AN. Dylid gwneud y sieciau yn daladwy i ‘Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd’, gan nodi ar gefn y siec ei fod at waith y llyfrynnau.
Os nad yw’r ffurflen yn gweithio ar y wefan, gellir dilyn y ddolen hon