Ychydig a wyddem pan ddechreuon ni’r defosiynau Dyddiol y byddent yn parhau am gyfnod mor hir – rydym yn agosáu at 500 diwrnod!
Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu, ac i bawb sydd wedi anfon adborth a negeseuon cynnes o anogaeth atom.
Oherwydd y cynnydd yng ngwaith MEC ac ailgychwyn llawer o weinidogaethau eraill, rydym wedi penderfynu o’r wythnos yn cychwyn 23 Awst 2021, y byddwn yn anfon y defosiynau allan ddwywaith yr wythnos – ddydd Mercher a dydd Sadwrn.
Gweddïwn y byddant yn parhau i fod yn fendith trwy gynhesu calonnau a thynnu sylw pobl at ein Gwaredwr mawr a rhyfeddol.
I danysgrifio i dderbyn y defosiynau dros ebost, defnyddiwch un o’r dolenni isod os gwelwch yn dda: