Mae Llwybrau wedi ei ail-lansio yn ddiweddar ar ffurf wefan ac ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth ewch draw i’r wefan: www.llwybrau.org
Dyma oedd cychwyniad gwreiddiol Llwybrau:
Beth yw pwrpas Llwybrau?
Mae pawb yn ceisio dweud wrthym sut i fyw ein bywyd!
Does dim ond rhaid i ni edrych ar y teledu am ychydig funudau i glywed na fydd ein bywydau yn gyflawn heb fwyta’r iogwrt yma neu fynd ar wyliau fan draw. A chawn ni fyth hapusrwydd llawn nes ein bod wedi yfed rhyw ddiod arbennig neu wisgo’r jeans yna.
Mae hyd yn oed y bobl o’n cwmpas, ac yn arbennig ein ffrindiau, yn cael dylanwad mawr ar y ffordd yr ydym yn byw a meddwl. Gyda’r holl ddylanwadau yma yn ein bywyd, sut fedrwn ni wybod pa lwybr i gymryd i gael y bywyd gorau posibl?
Mae’r Salmydd yn dweud: ‘Y mae dy air yn llusern i’m traed ac yn olau i’m llwybr’.
Mae gennym gwmpawd rhyfeddol i’n bywyd fel Cristnogion…
Gobeithiwn y bydd y rhifyn hwn o llwybrau yn gymorth i ti, ac y byddi yn mwynhau ei ddarllen.
– Golygyddol Llwybrau Mehefin 2008
Yn gryno, dyna yw pwrpas Llwybrau. Cafodd y cylchgrawn ei ddechrau er mwyn bod o gymorth i ieuenctid Cymru. Ein gobaith yw bod yr erthyglau a’r darlleniadau yn gyfoes, yn Feiblaidd gywir ac yn berthnasol i bobl ifanc heddiw. Mae’r cynnwys yn onest ac yn ceisio delio gyda ‘issues’ go iawn drwy edrych ar Iesu Grist, ei fywyd, ei ddysgeidiaeth, ei farwolaeth a’i atgyfodiad.
Pwy sy’n cynhyrchu Llwybrau ?
Caiff Llwybrau ei gynhyrchu gan grŵp o Gristnogion o dan ymbarel Mudiad Efengylaidd Cymru.
Pam Llwybrau ?
Mae bywyd yn llawn llwybrau; rhai llythrennol a rhai yn fwy ffigurol. O’r foment yr ydym yn cael ein geni
rydym ar lwybr. Ar ein ‘taith’ drwy’n bywyd byddwn yn cyfarfod â phobl a sefyllfaoedd gwahanol a rhaid bydd wynebu nifer o benderfyniadau am ba lwybrau yr hoffem eu cymryd trwy’n bywyd. Mae llwybr pawb yn wahanol, ond mae un peth yn sicr ac yn gyffredin i bawb – bydd y llwybr yn gorffen yn y bedd – gyda marwolaeth.
Ond oes mwy i fywyd na hyn? A ydym ni yma ar y Ddaear i fyw bywyd dibwys gwag?
I geisio mwynhau ein hunain am rai blynyddoedd cyn diflannu. Yng ngeiriau Robbie Williams ‘wake up on Sunday morning, everything seems so boring. Is this where it ends?’
Y newyddion da yw bod yna bwrpas i fywyd, gwrandewch ar eiriau a ddywedwyd 2000 o flynyddoedd yn ôl ‘Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.’ – geiriau Iesu, ac ers hynny mae miliynau o bobl wedi profi eu bod yn wir. Rydym wedi ein creu i fwy na cherdded ar lwybr disynnwyr drwy’r bydysawd. Cawsom ein creu gan Dduw sydd yn ein caru ac sydd eisiau cael perthynas gyda ni. Mae pwrpas i fywyd, mae bywyd i’w fwynhau – drwy ddod i adnabod Duw. Ein problem yw bod pawb, yn naturiol, ar lwybr sy’n mynd oddi wrth Dduw. Mae Duw yn berffaith ac yn gyfiawn ac yn casáu drygioni. Dywed y Beibl ein bod i gyd yn bechaduriaid – golyga hyn ein bod wedi torri deddf Duw, ac oherwydd hyn rydym o dan ei gondemniad. Ond daeth Iesu, a oedd yn ddyn a Duw, i’r Ddaear a byw bywyd perffaith – bywyd heb ddim drwg. Er hyn fe gafodd ei gondemnio i farw ar groes, a thrwy iddo farw fe dderbyniodd y gosb yr oeddem ni yn ei haeddu. Felly os ydym yn credu ynddo ac yn troi oddi ar y llwybr i ffwrdd oddi wrth Dduw fe gawn ein derbyn ganddo a chael bywyd – bywyd yn ei lawnder.
Mae pob Cristion yn cychwyn yma – gydag Iesu, ac wedi ei dderbyn fe gaiff ei roi ar lwybr newydd; llwybr fydd ddim yn gorffen yn y bedd, ond yn hytrach fydd yn gorffen gyda bywyd yn y Nefoedd. Ac mae Duw wedi gado i arwain y Cristion ar hyd y llwybr yma.
Y cwestiwn mawr yw ar ba lwybr ydych chi?