Ychydig ddyddiau o ymlacio, cymdeithas a gweinidogaeth yn y Bala.
Croeso i Hafan, ym Mryn-y-Groes, Y Bala.
Dyma wythnos o wyliau i oedolion a chyfle i ymlacio, mwynhau cymdeithas ac elwa o weinidogaeth y Gair.
Pryd?
Dyddiad 2020 i’w gadarnhau.
Pris?
Manylion 2020 i’w gadarnhau. (£275 a £30 yn ychwanegol i warantu ystafell sengl oedd pris 2019)
Beth fydd yn digwydd?
Bydd Geraint Morse yn arwain yr wythnos ac yn agor y Gair bob bore. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau gyda’n gilydd yn yr hwyr a thrip ar y dydd Mercher.
Bydd rhagor o ystafelloedd en-suite ar gael eleni yn y prif adeilad, ac mewn adeilad newydd sbon.
Bydd yr wythnos yn cychwyn gyda phryd o fwyd am 6 yr hwyr nos Lun, ond mae croeso i chi gyrraedd unrhyw bryd yn y prynhawn o 3 o’r gloch ymlaen. Bydd y Gwyliau yn dod i ben ar ôl brecwast ar y bore Sadwrn.
Bydd angen cynfasau gwely a thywel arnoch chi (gallwn ddarparu rhai am gost ychwanegol o £6). Fe wnawn ein gorau i ddarparu ystafell o’ch dewis, ond fyddwn ni ddim yn gallu gwarantu.
Edrychwn ymlaen i fod gyda chi eto.
Gwydion a Catrin
Archebu
Bydd ffurflen ar-lein yn ymddangos yn ystod Gwanwyn 2020.