Ychydig ddyddiau o ymlacio, cymdeithas a gweinidogaeth yn y Bala.
Croeso i Hafan, ym Mryn-y-Groes, Y Bala.
Dyma wythnos o wyliau i oedolion a chyfle i ymlacio, mwynhau cymdeithas ac elwa o weinidogaeth y Gair.
Pryd?
6-11 Mehefin 2022
Pris?
£310 (£35 ychwanegol i warantu ystafell sengl)
Beth fydd yn digwydd?
Dyma wythnos o wyliau a chymdeithas i oedolion ym Mryn-y-groes, y Bala. Bydd Geraint Morse yn agor y Gair bob bore. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn yr hwyr a thrip ganol wythnos. Bydd digon o gyfle i sgwrsio a chwerthin dros brydau bwyd blasus.
Bydd yr wythnos yn cychwyn gyda phryd o fwyd am 6 yr hwyr nos Lun, ond mae croeso i chi gyrraedd unrhyw bryd yn y prynhawn o 3 o’r gloch ymlaen. Bydd y gwyliau yn dod i ben ar ôl brecwast ar y bore Sadwrn.
Bydd angen cynfasau gwely a thywel arnoch chi (gallwn
ddarparu rhai am gost ychwanegol o £7). Fe wnawn ein gorau i ddarparu ystafell o’ch dewis, ond fyddwn ni ddim yn gallu gwarantu.
Edrychwn ymlaen i fod gyda chi eto.
Gwydion a Catrin
Archebu
Defnyddiwch y ffurflen arlein isod i archebu neu cysylltwch gyda Bryn-y-groes.