Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Blwyddyn Newydd Dda

Encil Gristnogol ar ddiwedd gwyliau'r Nadolig

Ymunwch gyda ni ym Mryn-y-groes, dros ddechrau’r flwyddyn newydd am gyfle i ddathlu, i gymdeithasu ac i ymlacio tra’n cael ein bwydo o air Duw.

Gwyliau i bawb o’r eglwys yw ‘Blwyddyn Newydd Dda’ gan fod pobl yn mynychu o 1-80 oed!

Cewch gyfle i ymlacio a gorffwys yn un o rannau harddaf Cymru yn un o ganolfannau preswyl gorau’r wlad!

  • Lleoliad – Bryn y Groes, Y Bala
  • Dyddiad – 1 Ionawr (Pryd nos) – 4 Ionawr (amser cinio)
  • Siaradwr – Steffan Job

Mae’r gwyliau yn cynnwys:

  • Cyfarfod boreol
  • Darpariaeth i’r plant
  • Gweithgareddau amrywiol
  • Gemau ac adloniant nosweithiol
  • Bwyd da
  • Cymdeithas a chroeso cynnes

Trefn 2018

 

Dydd Llun

  • 1.00 – Cinio
  • 2.00 – Crefft a Pel-droed
  • 4.00 – Gemau Parti
  • 5.30 – Swper
  • 7.30 – Noson o adloniant

Dydd Mawrth

  • 8.30 – Brecwast
  • 10.30 – Cyfarfod
  • 12.30 – Cinio
  • 2.00 – Neuadd Chwaraeon
  • 3.00 – Nofio (angen talu yn ychwanegol)
  • 5.30 – Swper
  • 7.30 – Noson o adloniant

Dydd Mercher

  • 8.30 – Brecwast
  • 10.30 – Cyfarfod
  • 11.30 – Ceffylau
  • 12.30 – Cinio
  • 2.00 – Mynd am dro/ffilm a pop corn
  • 4.00 – Dawnsio llinell
  • 5.30 – Swper
  • 7.30 – Noson yng ngofal criw Bangor

Dydd Iau

  • 8.30 – Brecwast
  • 10.30 – Cyfarfod
  • 12.00 – Cinio

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda swyddfa’r gogledd.

Prisiau llawn eleni:

Oedolyn – £99
Myfyriwr – £80
Plentyn uwchradd – £55
Plentyn cynradd – £35
Dan 4 oed – am ddim

Er mwyn archebu am ran o’r gwyliau, cysylltwch gyda Steffan Job (steff_job@hotmail.com).

Archebu

Web Form Creator