Ymunwch gyda ni ym Mryn-y-groes, dros ddechrau’r flwyddyn newydd am gyfle i ddathlu, i gymdeithasu ac i ymlacio tra’n cael ein bwydo o air Duw.
Gwyliau i bawb o’r eglwys yw ‘Blwyddyn Newydd Dda’ gan fod pobl yn mynychu o 1-80 oed!
Cewch gyfle i ymlacio a gorffwys yn un o rannau harddaf Cymru yn un o ganolfannau preswyl gorau’r wlad!
- Lleoliad – Bryn y Groes, Y Bala
- Dyddiad – 1 Ionawr (Pryd nos) – 4 Ionawr (amser cinio)
- Siaradwr – Steffan Job
Mae’r gwyliau yn cynnwys:
- Cyfarfod boreol
- Darpariaeth i’r plant
- Gweithgareddau amrywiol
- Gemau ac adloniant nosweithiol
- Bwyd da
- Cymdeithas a chroeso cynnes
Trefn 2018
Dydd Llun
- 1.00 – Cinio
- 2.00 – Crefft a Pel-droed
- 4.00 – Gemau Parti
- 5.30 – Swper
- 7.30 – Noson o adloniant
Dydd Mawrth
- 8.30 – Brecwast
- 10.30 – Cyfarfod
- 12.30 – Cinio
- 2.00 – Neuadd Chwaraeon
- 3.00 – Nofio (angen talu yn ychwanegol)
- 5.30 – Swper
- 7.30 – Noson o adloniant
Dydd Mercher
- 8.30 – Brecwast
- 10.30 – Cyfarfod
- 11.30 – Ceffylau
- 12.30 – Cinio
- 2.00 – Mynd am dro/ffilm a pop corn
- 4.00 – Dawnsio llinell
- 5.30 – Swper
- 7.30 – Noson yng ngofal criw Bangor
Dydd Iau
- 8.30 – Brecwast
- 10.30 – Cyfarfod
- 12.00 – Cinio
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda swyddfa’r gogledd.
Prisiau llawn eleni:
Oedolyn – £99
Myfyriwr – £80
Plentyn uwchradd – £55
Plentyn cynradd – £35
Dan 4 oed – am ddim