Gwyliau Hafan 2023
Cynhelir Hafan eleni ar 12-17 Mehefin. Bydd yn wythnos o wyliau i oedolion a chyfle i ymlacio, mwynhau cymdeithas ac elwa o weinidogaeth y Gair ym Mryn-y-groes, y Bala.
Bydd Geraint Morse yn arwain yr wythnos ac yn agor y Gair bob bore. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau gyda’n gilydd yn yr hwyr ac un trip.
Bydd yr wythnos yn cychwyn gyda phryd o fwyd am 6 yr hwyr nos Lun, ond mae croeso i chi gyrraedd unrhyw bryd o 3 y prynhawn. Bydd y tegell ymlaen! Bydd y Gwyliau yn dod i ben ar ôl brecwast ar y bore Sadwrn.
Cost – £340 yn cynnwys prydau bwyd a thrip.
Bydd duvet a gobennydd ar bob gwely ond bydd angen i chi ddod â chynfasau gwely a thywelion. (Gallwn ddarparu rhai am gost ychwanegol o £7).
Nid ydym yn gallu gwarantu eich dewis o ystafell – ond fe wnawn ein gorau i blesio pawb.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Bryn-y-groes.