Mae’n bleser gennym eich gwahoddd i’r Gynhadledd Flynyddol hon i Fenywod. Cynhelir y gynhadledd yn Saesneg. Byddwn yn cyfarfod ddydd Sadwrn, 11 Mawrth 2023 yn eglwys Libanus, Treforys, Abertawe.
Gweddïwch dros Rebecca Thomas wrth iddi baratoi i siarad gyda ni. Ei thestun fydd ‘Be connected: To Christ, Church and your Community’.
Edrychwn ymlaen at gael bod gyda chi ac i fwynhau cymdeithas gyda’n gilydd – gobeithiwn yn fawr y byddwch yn gallu dod.