Archebu:
a. Bydd archebion yn agor ar Ddydd Mercher, 30 Mehefin 2021 am 10yb. Bydd archebion yn cael eu cymryd a’u gweinyddu gan Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth drwy’r wefan hon.
b. Mae angen archebu yn ôl eich aelwyd/aelwyd estynedig.
c. Bydd archebion yn cael eu trin ar sail y cyntaf i’r felin (heblaw pan fydd modd rhoi le i grŵp llai e.e., 2 berson yn lle grŵp o 6 wrth ddilyn rheolau pellhau cymdeithasol).
ch. Byddwch yn derbyn tocyn(nau), a bydd angen dod â rhain i’r cyfarfodydd. Derbynnir fersiynau digidol e.e., ar ffôn. Oherwydd canllawiau Cofid-19, ni fydd mynediad i’r neuadd heb docyn.
Newid archeb neu Ganslo:
a. Os bydd angen newid manylion eich archeb neu ganslo’ch tocynnau, bydd rhaid gwneud hyn trwy Ganolfan y Celfyddydau yn ôl eu telerau ac amodau.
b. Rhoddir ad-daliad llawn os bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo.
Ffilmio/Ffotograffiaeth:
Noder os gwelwch yn dda bydd y cyfarfodydd yn cael eu darlledu’n fyw ar y we ac ar gael i wylio ar ôl y digwyddiad. Mae’n bosib bydd ffilmio a/neu ffotograffiaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer deunydd hyrwyddo.
Amddiffyn Data:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni yma ym MEC ac fe ddefnyddiwn eich manylion personol dim ond i weinyddu eich cyfrif a darparu adnoddau a gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt. Ni fyddwn yn pasio eich manylion i fudiadau eraill nag yn ei ryddhau i’r cyhoedd.
Canllawiau Cofid-19:
Er mwyn lleihau’r risg a sicrhau diogelwch mynychwyr, staff a gwirfoddolwyr:
a. Rhaid i fynychwyr ddilyn canllawiau’r llywodraeth ynglŷn â Cofid-19 ar adeg y digwyddiad. Bydd y rhain yn cael ei e-bostio i arweinwyr y grwpiau dau ddiwrnod cyn y digwyddiad.
b. Mae MEC yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sy’n dangos symptomau Cofid-19 clir neu’n gwrthod cadw at ganllawiau.