Gan fod Aberystwyth yn fan lle mae gymaint yn dod ar eu gwyliau, yna mae digon o opsiynau ar gyfer lletya. Beth bynnag yw eich anghenion, fe fydd rhywbeth ar eich cyfer. Mae mynychwyr y gynhadledd yn aros mewn nifer o fannau gwahanol, ond efallai mai’r opsiynau isod yw’r lle gorau i gychwyn ystyried pa lety i’w ddewis!
Neuaddau’r Brifysgol
Ceir dewis amrywiol o ystafelloedd o fewn campws y brifysgol. Mae’r ystafelloedd yn fodern ac yn hwylus ar gyfer y gynhadledd. Cysylltwch gyda swyddfa y brifysgol am fwy o wybodaeth.
Gwersylla
Mae nifer o’r rhai sy’n mynychu’r gynhadledd yn gwersylla gyda’i gilydd ym mharc carafanau a gwersylla Midfield. Y flwyddyn ddiwethaf roedd llawer o deuluoedd yno – gan rannu lifftiau a chymdeithas drwy’r wythnos! Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r swyddfa sy’n cydlynu’r trefniadau.
Gwesty
Mae criw o’r gynhadledd hefyd yn aros mewn gwestai o gwmpas Aberystwyth. Mae dau westai arbennig lle y mae pobl o’r gynhadledd yn aros sef Gwesty’r Marine a Llety Parc.