Abe
rystwyth yw cartref y gynhadledd ers blynyddoedd bellach ac unwaith eto eleni bydd y prif gyfarfodydd yn digwydd yng nghanolfan MedRus yn y brifysgol. Mae’r ganolfan yn fodern a chyfforddus gyda bwyty o safon sy’n gweini prydau bwyd, diodydd a chacenau drwy’r dydd.
O fewn tafliad carreg i gampws y brifysgol mae’r dref sy’n gartref i nifer o siopau, caffis ac i’r traeth. Does unman gwell na prom Aberystwyth pan fo’r haul yn tywynnu a’r cyfle i fynd am dro a mwynhau harddwch bae Ceredigion.
I’r rhai sy’n teimlo’n fwy anturus mae nifer o opsiynau gwahanol gan gynnwys mynd ar lwybr beicio’r Rheidol neu gerdded i fyny ‘Consitution Hill’!
Beth bynnag eich diddordeb, mae digon i’w wneud yn Aberystwyth.
Canolfan Gynadledda MedRus
Mae’r ganolfan yn rhan o gampws hardd Prifysgol Aberystwyth. Yn rhan o’r ganolfan mae caffi sy’n gwerthu bwyd o safon am bris rhesymol iawn, ac mae mynediad i’r anabl i bob rhan o’r ganolfan.
Parcio
I’r rhai fydd angen cludiant at ddrws y ganolfan neu sy’n teithio i’r gynhadledd o’r tu allan – mae rhai mannau parcio y tu allan i’r ganolfan. Yn ogystal â’r maes parcio talu ac arddangos, bydd modd defnyddio meysydd parcio’r coleg.