Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Beth sy'n digwydd eleni?

Gras o gylch y Gair i deulu'r Eglwys

Dyma fanylion llynedd i roi syniad i chi o’r strwythur a beth i ddisgwyl yn y gynhadledd flynyddol. Bydd manylion eleni yn ymddangos yn fuan.

 

Er bod pob dydd yn wahanol, mae’r gynhadledd yn troi o gwmpas y prif sesiynau a chyfarfodydd. Dyma felly fraslun o’r hyn fydd yn digwydd bob dydd:

Trefn y dydd

9.30

  • Cyfarfod Gweddi – cyfle i ddod at ein gilydd i addoli a galw ar Dduw
  • Llwybrau – cyfarfod i bobl ifanc 10-13 oed i edrych ar y Beibl gyda’n gilydd
  • Gwersyll yr Ifanc – cyfarfod i bobl ifanc 14-21 oed

11.00

  • Prif Gyfarfod – cyfle i bawb ddod at ei gilydd i addoli a gwrando ar air Duw yn cael ei esbonio
  • Clwb Plant – darpariaeth i blant 3-9 oed

12.30

  • Cinio – beth am ymuno gydag eraill ym mwyta TaMed Da?

14.00

  • Gweithgareddau’r Pnawn i fwynhau cwmni’n gilydd (gweler isod)

17.30

  • Swper – mae dau gyfle i ymuno gyda’n gilydd yn ystod yr wythnos

19.30

  • Cyfarfod yr Hwyr – cyfle i addoli, dysgu a rhannu gyda’n gilydd

21.30

  • Gweithgareddau Hwyr – rhywbeth i ymlacio a dod i ‘nabod eraill (gweler isod)

Siaradwyr

Edrychwn ymlaen at groesawu nifer o siaradwyr fydd yn dod â gair Duw atom eleni. Gweddïwch dros bob un ohonynt fel eu bod yn cael gras a chymorth Duw wrth baratoi. Dyma restr o’r siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau hyd yn hyn:

  • Emyr James (Caerdydd) – Prif gyfarfodydd y bore
  • Gwyon Jenkins (Llanelli) – Cyfarfodydd gweddi
  • Geraint Morse (Sir Benfro) – Nos Lun
  • Arfon Jones (Caerdydd) – Nos Fawrth
  • John Derek Rees (Abertawe) – Nos Iau
  • Gwynn Williams (Caerdydd) – Nos Wener

Ymlacio a Chymdeithasu

Fydd ddim rhaid i neb fod ar ben eu hunain yn Aberystwyth eleni, gan fod digon o weithgareddau wedi eu trefnu i bawb.

  • Pnawn Mawrth- Trip ar y tren neu fflash gôr. Cyfle i fynd ar y trên bach i gŵm Rheidol neu beth am ymuno â chôr i ddysgu caneuon newydd ar gyfer y cyfarfod nos Fercher?
  • Pnawn Mercher- Taith Gerdded yn gorffen gyda ‘Rhost Mochyn’. Taith o gwmpas harddwch yr ardal (addas ar gyfer pawb) yn gorffen gyda chyfle i fwynhau rhost mochyn.
  • Pnawn Iau- Trip Hanes (gwybodaeth isod) neu gemau ar y traeth. Cyfle i ddysgu ychydig am hanes Cristnogaeth yng Nghymru neu gyfle i fynd i’r traeth am gemau a hufen iâ.
  • Pnawn Gwener – Helfa drysor o gwmpas y dref a sglodion ar y prom. Cyfle i fwynhau ambell i baned a chacen wrth gymryd rhan yn yr helfa drysor blynyddol!

I’r rhai fydd ag egni ar ôl diwrnod llawn, mae cyfle i ymuno gydag eraill mewn awyrgylch fwy hamddenol. Mae’n gyfle i ddod i wneud ffrindiau newydd ac i rannu bendithion y dydd.

  • Nos Lun – Arddangosfa Celf. Cyfle i edrych ar waith celf a dysgu sut y mae celf a bod yn greadigol yn rhan o gynllun Duw ar ein cyfer.
  • Nos Fawrth – Cerdded ar y prom a choelcerth. Yn ddibynnol ar y tywydd!
  • Nos Fercher – Noson Cwis.
  • Nos Iau – Noson ‘Meic agored’. Cyfle i ddod a rhannu cerddoriaeth neu farddoniaeth gydag eraill.
  • Nos Wener – Bwyd a chlonc. Traddodiad sy’n rhaid ei gadw … lawr i’r dre i nôl bwyd!

 

Trip Hanes

Bydd y Daith Hanes eleni’n mynd i Landdewibrefi, rhwng Tregaron a Llanbedr Pont Steffan.

Pentref bach gwledig yw hwn, ond mae iddo le amlwg yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Fel yr awgryma’r enw, roedd ganddo gysylltiad enwog iawn â Dewi Sant yn ôl yn y chweched ganrif. Yma hefyd y casglwyd rhai o lawysgrifau crefyddol pwysicaf Cymru yn yr Oesoedd Canol. Yn nes ymlaen bu Griffith Jones, Llanddowror, yn pregethu yn Llanddewibrefi – gyda chanlyniadau tyngedfennol i wrandawr ifanc o’r enw Daniel Rowland. Ac mae Duw wedi bod ar waith yn yr ardal yn fwy diweddar hefyd . . .

Gobeithir symud ymlaen wedyn i gael paned yn yr Hedyn Mwstard, caffi Cristnogol yn Llanbedr Pont Steffan, a dod yn ôl drwy Aberaeron.

Arweinir y daith gan Gwyn Davies.

Bydd y bws yn cychwyn o’r safle bws gyferbyn â Chaban y Porthorion, Campws Pen-glais, yn brydlon am 1.30 ar brynhawn dydd Iau. Gobeithir cyrraedd yn ôl erbyn tua 5.15.