Cynhadledd Cymraeg Mudiad Efengylaidd Cymru
21-25 Awst 2023, Aberystwyth
Yn ein dyddiau ni mae gwyliau yn bwysig ac yn beth i’w drysori. Mae’n gyfle i gilio oddi wrth brysurdeb bywyd a gwaith, gan ymlacio gyda theulu neu ffrindiau mewn awyrgylch gwahanol.
Beth well nac ymuno gyda Christnogion eraill o bob rhan o Gymru am wyliau, cyfle i gymdeithasu ac yn fwy pwysig na dim arall – ceisio’r Arglwydd?
Os ydych chi’n dod ar eich pen eich hunan, yn deulu neu’n rhan o grŵp, a beth bynnag yw eich cefndir enwadol neu eglwysig, bydd croeso cynnes i chi yn Aberystwyth eleni!
Ymunwch gyda ni wrth i ni geisio a derbyn gras o gylch y Gair.