Cyfle i chi uno gyda dynion eraill sy’n gweithio dros Grist drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae undod yn rhywbeth y dylem ei geisio (Ioan 17), ac felly rydym yn eich annog i ddod i’r gynhadledd.
Hoffem bwysleisio mai nad uno o dan faner y Mudiad yw pwrpas y gynhadledd hon. Does gennym ddim diddordeb mewn ceisio chwyddo niferoedd ein cynhadledd ni. Deallwn yn glir nad oes gan MEC fonopoli, na hawl, ar waith yr efengyl yng Nghymru. Yn hytrach rydym eisiau rhoi’r cyfle i gymaint o bobl a phosib ddod at ei gilydd.
Mae Cymru mewn stad mor ofnadwy gyda miliynau o bobl yn golledig heb Grist. Mae’r gwaith mor fawr – a ninnau mor fach mewn nifer – mae angen ein gilydd arnom.
Felly gwahoddiad agored yw hwn sy’n cael ei gynnig yn wylaidd i bawb o bob cefndir ac enwad Cristnogol yng Nghymru.
Manylion 2021
Pryd? 11-12 Hydref
Ble? Bryn-y-groes
Siaradwyr?
- Yma rwy’n sefyll 1 a 2 – John Treharne,
- Paratoi ein calonnau i weinidogaethu – Dafydd Job
- Y Gweinidog fel Cristion – Emyr James
Thema? Yma Rwy’n Sefyll
Pris?
- Y Gynhadledd Gyfan – yn cynnwys llety a lluniaeth llawn: £75
- Y Gynhadledd Gyfan – heb llety, yn cynnwys lluniaeth llawn: £40
- Dydd Llun yn unig – yn cynnwys prydau bwyd: £25
- Dydd Llun gyda cinio neu swper: £15
- Dydd Mawrth gyda cinio: £15
- Dydd Llun neu Dydd Mawrth yn unig heb prydau bwyd: £10 y diwrnod
Archebu? Archebwch le trwy’r ffurflen isod os gwelwch yn dda. Cofiwch cysylltu gyda’r swyddfa os oes angen mwy o fanylion arnoch.