Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cynadleddau a Digwyddiadau Hyfforddi

Cefnogi, hyfforddi, arfogi ac annog arweinwyr

Mae bod yn arweinydd yn gyfrifoldeb mawr ac yn waith anodd. Rydym am gefnogi a gwasanaethu arweinwyr eglwysi’r efengyl i wasanaethu eu pobl. Nod ein cynadleddau yw annog a helpu arweinwyr i weinidogaethu yng Nghymru heddiw ac maent ar gyfer arweinwyr sydd a’u calon a’u bryd ar yr efengyl. Maent yn gyfle gwych i gyfarfod gydag arweinwyr eraill sy’n credu’r Beibl, yn groes ganolog ac yn caru Crist ar gyfer gweddi, cyfeillgarwch a gweinidogaeth.

Mae pwyslais mawr yn ein digwyddiadau ar y gair a’r Ysbryd – credwn fod gwir Gristnogaeth yn weithredol ac yn effeithio pob rhan o berson.

Isod ceir rhestr o’n holl gynadleddau a digwyddiadau ar gyfer arweinwyr. Gobeithio y bydd y wybodaeth o gymorth ond teimlwch yn rhydd i gysylltu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.

Gweinidogion:

Arweinwyr Eglwysi:

  • Brawd – Pwrpas brawd yw uno gweinidogion yr efengyl fel eu bod yn gallu annog a helpu eu gilydd.
  • TeamTalk – Cyfarfodydd wythnosol trwy gyfrwn y Saesneg i annog, rhannu a gweddïo gyda gweinidogion eraill.
  • Dyddiau Hyfforddi Arweinwyr – Diwrnodau ym mis Ionawr ar gyfer hyfforddi arweinwyr eglwysi, o bregethwyr i athrawon ysgol Sul.
  • Barnabas – Nosweithiau Hyfforddi Arweinwyr – Cyfarfodydd rhanbarthol yn delio gyda materion anodd sy’n gallu codi yn ein heglwysi.

Gweinidogion Newydd:

  • Brawd – Pwrpas brawd yw uno gweinidogion yr efengyl fel eu bod yn gallu annog a helpu eu gilydd.
  • TeamTalk – Cyfarfodydd wythnosol trwy gyfrwn y Saesneg i annog, rhannu a gweddïo gyda gweinidogion eraill.
  • Er Ei Ogoniant – Dyddiau Gweinidogion Newydd – Diwrnodau i gwrdd am weddi a chymdeithas gyda dynion eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Gwragedd Gweinidogion: