Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych. Ioan 13:35
Pwrpas brawd yw uno gweinidogion yr efengyl fel eu bod yn gallu annog a helpu eu gilydd.
Cychwynodd y cyfarfod yn ystod cyfnod cloi covid-19, lle cafodd gwahoddiad agored ei roi i fois sy’n gweinidogaethu i ddod at eu gilydd yn wythnosol i rannu a gweddio. Profodd hyn yn gymorth i nifer wrth iddynt fedru rhannu beichiau, trafod syniadau a gweddio gyda’i gilydd.
Gan edrych i’r dyfodol rydym am barhau gyda’r cyfarfodydd arlein yma – i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gwnewch yn siwr eich bod wedi tanysgrifio gyda’ch ebost i’r rhestr Gweinidogion.
Cyfarfodydd Nesaf
- Nos Lun, 14 Mehefin, 2021, 8yp dros Zoom. Bydd Dafydd Job yn ein harwain mewn defosiwn, ac yna byddwn yn cael amser i weddio dros ein gilydd a’n heglwysi.
- Nos Lun, 5 Gorffennaf, 8yp dros Zoom.
- Mis Hydref – Cynhadledd Gweinidogion.
Er mwyn cofrestru ar gyfer y cyfarfodydd Zoom, cysylltwch gyda Steffan Job (steffanjob@mudiad-efengylaidd.org) i dderbyn y manylion.