(Sylwer – Rhaid i ni weld 3 dogfen ID gennych – os nad ydych yn siŵr beth sy’n addas fel 3ydd dogfen plîs cysylltwch. Os ydych yn byw yn agos i un o’r swyddfeydd, croeso i chi galw mewn gyda’ch dogfennau hunan adnabod i ni wirio. Plîs ffoniwch o flaen llaw i wirio bod rhywun ar gael i wneud hyn – De 01656 655886; Gogledd 01248 354653)
Os oes gennych Wiriad DBS ar gyfer Gwaith Plant yn barod, ac rydych wedi tanysgrifio i’r ‘Update Service’, cwblhewch y ffurflen ‘Update Service Form’ isod. Danfonwch hwn at Rebecca Gethin gyda’ch tystysgrif DBS gwreiddiol (nid copi), a’ch 3 dogfen adnabod – gweler ‘List of ID’ isod i weld pa ddogfennau sy’n ddilys.
Os nad ydych wedi tanysgrifio i’r ‘Update Service’, bydd angen i chi cwblhau gwiriad DBS newydd gyda MEC. Er mwyn gwneud hyn, plîs dilynwch y cyfarwyddiadau yn y llawlyfr isod (‘DBS Applicant Handbook’). Gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus os gwelwch yn dda. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
Organisation Reference: 3566
Organisation Code: EVANGELICAL3566
Your position applied for (to be entered on the form): Children’s Camp Leader (os ydych yn Arweinydd, Arweinydd y Merched, neu’r Caplan) / Children’s Camp Worker (Unrhyw rôl arall ar y wersyll)
Cofiwch unwaith i chi gyflawni’r ffurflen arlein bydd angen danfon eich 3 dogfen adnabod (mae yna restr o ddogfennau dilys yn y llawlyfr isod. Os yn bosib, danfonwch gopïau ‘certified’ o Swyddfa’r Bost – mwy o wybodaeth ar https://www.postoffice.co.uk/identity/document-certification) a’r ‘Self Declaration Form’ isod i Rebecca Gethin. Rhaid i ni wirio’r ffurflen hon cyn prosesu eich cais am wiriad DBS.
Manylion Cyswllt Rebecca Gethin:
rebeccagethin@mudiad-efengylaidd.org
Swyddfa Gogledd MEC, 31 Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2EU
01248 354653