Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cymorth i ymweld a Sioe, Ffair neu Ddigwyddiad Cymunedol

Rydym wedi helpu dros 60 eglwys yn y blynyddoedd diwethaf. Medrwn weithio mewn ffyrdd gwahanol yn ddibynnol ar anghenion yr eglwys. Dyma nifer o enghraifft o’r hyn a wnaethpwyd mewn gwahanol fannau:

Sioe Dinbych a Fflint

  • Gweithio gydag Eglwys Gosen Rhuddlan.
  • Sioe fawr un diwrnod.
  • Darparwyd baneri, holiaduron a chylchgronau
  • Rhoddwyd cymorth i drefnu’r digwyddiad ac i greu asesiadau risg ayyb.
  • Gweithiodd yr eglwys gyda eglwysi lleol eraill i fod ar y faes y sioe yn gwneud holiaduron, sgwrsio gyda phobl a llenwi’r fanner ar gefn y babell.
  • Rhannwyd pwyntiau gweddi o fewn rhwydwaith MEC.
  • Enw’r eglwys oedd ar y babell.

Ffair Llanffestiniog

  • Gweithio gyda Capel y Fron, Penrhyndeudraeth.
  • Sioe fach leol ar y stryd.
  • Darparwyd baneri, Cylchgronau a deunydd efengylu.
  • Darparwyd un aelod o staff MEC i helpu gyda’r gwaith yn ystod y dydd.
  • Rhannwyd pwyntiau gweddi o fewn rhwydwaith MEC.
  • Enw’r Eglwys oedd ar y babell.

Marchnad Machynlleth

  • Gweithio gyda eglwys gymunedol Machynlleth.
  • Gweithwyd ar y cyd gyda asiantaeth Gristnogol arall yn enw’r eglwys.
  • Darparwyd cyngor, cylchgronau ac efengylydd am y diwrnod.
  • Rhannwyd pwyntiau gweddi o fewn rhwydwaith MEC.
  • Trefnodd yr eglwys barbeciw ar y stryd yn y nos.

Ffair Castell-Nedd

  • Gweithio gyda nifer o eglwysi lleol yn y ffair stryd fawr dros 4 diwrnod.
  • Arweinwyd yr ymgyrch gan MEC.
  • Daraparwyd gwirfoddolwyr, cylchgronau, llyfrau a phabell.
  • Trefnwyd digwyddiadau yn y babell yn ddyddiol.
  • Rhannwyd pwyntiau gweddi o fewn rhwydwaith MEC.