Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cymorth i redeg Ymgyrch leol

Rydym wedi helpu dros 60 eglwys yn y blynyddoedd diwethaf. Medrwn weithio mewn ffyrdd gwahanol yn ddibynnol ar anghenion yr eglwys. Dyma nifer o enghraifft o’r hyn a wnaethpwyd mewn gwahanol fannau:

Ymgyrch Abertawe

  • Gweithio gyda 7 eglwys lleol i greu wythnos o ddigwyddiadau ar draws y ddinas.
  • Argraffu a dylunio papur newydd a’i rannu yn lleol (dros 20,000 copi)
  • Cymorth arianol
  • Trefnu tim o wirfoddolwyr i helpu gyda’r dosbarthu.
  • Cymorth i ddarparu siaradwyr i’r gwahanol ddigwyddiadau.
  • Enghreifftiau o ddigwyddiadau a drefnwyd – noson dystiolaeth, prynhawn teulu, cinio i ferched.

Ymgyrch Lleol Roch

  • Gweithio gyda eglwys fach Roch dros ddwy ymgyrch
  • Rhannu papurau newydd a threfnu gweithgareddau.
  • Trefnu gwaith ysgolion, prynhawn teulu a chyfarfodydd.
  • Rhannwyd pwyntiau gweddi o fewn rhwydwaith MEC.
  • Darparu gwirfoddolwyr i redeg y gweithgareddau a’r clybiau.