Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Thema:

Y Cylchgrawn Efengylaidd

6 Rhag, 2011

Temtasiynau Cyfrwys

gan Jonathan Thomas

Rwy’n dwli ar ddau beth am y Nadolig: un, anrhegion. Rwy’n dwli ar bobl sy’n prynu llyfrau i mi, neu CDs, dillad… neu Pic ˊn Mix. Erbyn mis Hydref mae gen i restr hir o ‘bethau’ rwyf am eu cael, na allaf wynebu bywyd hebddynt. Rwy’n pregethu wrth eraill ei bod hi’n well rhoi na…

Darllen ymlaen
6 Rhag, 2011

Gwneud cam â’r Beibl?

gan Geraint Lloyd

Nid peth newydd yw ymosod ar awdurdod y Beibl. Anfonwyd cannoedd o saint yr Eglwys Fore i’r arena am ddewis y Beibl o flaen gorchmynion Cesar. Yn ystod yr Oesoedd Canol bu’r Waldensiaid a’r Lolardiaid dan gabl am herio awdurdod yr Eglwys ar sail y Beibl, a chynyddodd y ffrwd fechan hon yn afon lifeiriol…

Darllen ymlaen
6 Rhag, 2011

Y Parch. A. Wayne Hughes (1960-2011)

gan Meirion Thomas

Ym mis Medi 1982 dechreuodd Wayne Hughes ar ei weinidogaeth yn Jerwsalem a Bethania Blaenau Ffestiniog. Bu yno am 29 mlynedd yn weinidog ffyddlon dros y cyfnod cyfan. Pregethu cyson, ymweld diflino i fugeilio’n ofalus, cynghori doeth a llawer o gymwynasau tawel diffwdan oedd nodweddion hardd y weinidogaeth ar ei hyd. Yn y dyddiau cynnar roeddwn yn ymweld…

Darllen ymlaen
3 Rhag, 2011

Rhyfeddod yr ymgnawdoliad

gan Gwynn Williams

Mae’r Nadolig yn rhoi cyfle i ni fel Cristnogion ein hatgoffa ein hunain o un o ddigwyddiadau hanesyddol sylfaenol ein ffydd a’n cred, sef genedigaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Mae sawl ymateb yn bosibl i’r digwyddiad gwyrthiol yma. Mae rhai yn hollol anghrediniol, eraill yn gwawdio. I’r saint, geiriau fel diolchgarwch neu lawenydd sydd yn…

Darllen ymlaen
3 Rhag, 2011

Golwg ar y Geiriau – Skandalon

gan Iwan Rhys Jones

Bob hyn a hyn bydd y cyfryngau’n llawn newyddion am sgandal o ryw fath: methiant, efallai, yng ngwasanaeth cwmni neu adran o’r llywodraeth, neu ddigwyddiad cywilyddus ym mywyd unigolyn. Gwahanol, serch hynny, yw arwyddocâd y gair skandalon, er bod y gair modern sgandal yn tarddu ohono. Yn wreiddiol, roedd skandalon yn dynodi’r abwyd mewn trap…

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Pam dylwn i gredu’r Efengylau?

gan Eryl Davies

Cyfeiria’r teitl ‘Efengylau’ at y pedwar llyfr cyntaf yn y Testament Newydd, sef Matthew, Marc, Luc ac Ioan. A oes modd eu derbyn yn gofnodion cywir a hanesyddol? Nid cwestiwn dibwys yw hwn, herwydd yn y llyfrau hyn cawn ddisgrifiad o fywyd, gwaith, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Hoffwn i ateb y cwestiwn trwy ofyn sawl cwestiwn arall….

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Cyflwyniad i Gyfres Newydd: “Arolwg o’r Beibl”

gan Derrick Adams

Mae dwy ffordd o drafod mochyn cwta. Naill ai ei anwesu, neu ei agor i fyny mewn labordy er mwyn dadansoddi a labelu gwahanol ddarnau o’i gorff! Y ffordd gyntaf yn ddi-os yw’r ffordd fwyaf pleserus, ond o ddeall moch cwta yn fanylach gallwch ofalu amdanynt yn well. Mae’r un peth yn wir am ddarllen y Beibl. Rhaid…

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Myfi yw… Duw?

gan Mark Thomas

Trawodd gweinidogaeth Iesu o Nasareth Israel fel corwynt. Amlygodd ragrith crefyddol ei ddydd, a trawsnewidiodd ei ddysgeidiaeth a’i wyrthiau fywydau er gwell. Mae’n dal i gael yr un effaith drwy’r byd i gyd heddiw. Y mae hyn yn codi’r cwestiwn, ‘Pa fath o ddyn yw hwn…?’ O dro i dro, daw beirniaid sy’n honni mai…

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Dinistr Daeargrynfeydd 2011: Ymateb Cristnogol

gan Dewi George

Ym mis Ionawr 2010, bu daeargryn yn Haiti a effeithiodd ar 3 miliwn o bobl. Daeargryn hefyd a darodd ddinas Christchurch ar Ynys y De, Seland Newydd ym mis Chwefror eleni. Prin fis yn ddiweddarach, achosodd y daeargryn a darodd Sendai yn Siapan i tswnami godi a tharo’r tir mawr. Golchwyd trefi cyfan i ffwrdd gan y tswnami a chollodd…

Darllen ymlaen
3 Hyd, 2011

Golwg ar y Geiriau – Bywyd Tragwyddol

gan Iwan Rhys Jones

Nid gair ond ymadrodd sydd gennym y tro hwn, sef ‘bywyd tragwyddol’. Mae’r ymadrodd hwn yn codi sawl gwaith yn y Testament Newydd; mae’n rhan bwysig o neges Iesu Grist ac awduron y Testament Newydd. Dechreuwn trwy gofio mai rhodd yw bywyd tragwyddol; does neb yn gallu ei hawlio. Duw sy’n ei roi: ‘rhoi yn…

Darllen ymlaen
9 of 9« First...56789