Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Thema:

Y Cylchgrawn Efengylaidd

5 Meh, 2017

Llyfryddiaeth Edmund T Owen

gan Wyn James

Edmund T. Owen (1935–2017): Llyfryddiaeth Y Cylchgrawn Efengylaidd Ni chynhwysir yma restr o gyfraniadau niferus Edmund Owen i’r Cylchgrawn Efengylaidd o 1960 ymlaen. Rhestrir ei gyfraniadau rhwng 1960 a 1999, o dan ei enw ei hun ac o dan y ffugenw ‘Eilyr’, yn William H. Howells, Mynegai Y Cylchgrawn Efengylaidd 1948–1999 (Pen-y-bont ar Ogwr: Cymdeithas…

Darllen ymlaen
26 Chw, 2017

William Williams

gan Gwyn Davies

Tybed a oes rhywbeth arbennig yn y dŵr yng ngogledd sir Gaerfyrddin? O fewn rhyw ddeng milltir i bentref Llanwrda, ac o fewn llai na hanner can mlynedd i’w gilydd, ganwyd rhai o emynwyr gorau Cymru: Dafydd Jones, John Dafydd, a Morgan Dafydd (Caeo); Morgan Rhys (Cil-ycwm); Ioan Thomas (Myddfai); a Thomas Lewis (Talyllychau). Ond…

Darllen ymlaen
23 Ion, 2017

William Williams yr Emynydd

gan Nathan Munday

Hoffwn ddechrau gyda dyfyniad o bregeth ddiweddar gan Iain. D. Campbell: In the womb of the Old Testament the Saviour is carried until he is born in the New. Sometimes we feel him kicking or hear him speaking. Sometimes he makes his presence known. Sometimes the womb of the Old Testament is straining to contain…

Darllen ymlaen
23 Ion, 2017

William Williams y Bugail

gan Andras Iago

Yn ei farwnad i Pantycelyn, rhestra Thomas Jones o Ddinbych rai o’r ‘doniau ar ei ben ei hunan’ oedd yn perthyn i’w wrthrych. Mae ei eiriau’n werth eu dyfynnu, oherwydd maent yn dweud rhywbeth am Williams a ddwedwyd gan sawl un wedyn: Medrus, manwl mewn athrawiaeth, Egwyddorion, a disgyblaeth; Ca’dd ei ddysgu i drin, yn…

Darllen ymlaen
23 Ion, 2017

Ofn

gan Emyr James

Mae’n siŵr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â’r term Arachnophobia(ac yn gallu cydymdeimlo â phobl sy’n dioddef ohono!). Ond beth am Xanthophobia(ofn pethau melyn), Turophobia(ofn caws) neu Alektorophobia(ofn ieir) … ? Efallai fod gennych chi ryw phobia arall, rhywbeth sy’n codi ofn afresymol arnoch chi. Hyd yn oed os nad ydych chi’n dioddef…

Darllen ymlaen
23 Ion, 2017

Hanes Cyfieithu Beibl.net

gan Arfon Jones

Mae syniad pobl o beth mae cyfieithu’r Beibl yn ei olygu yn gallu bod yn gamarweiniol iawn weithiau. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae cyfieithu’r ysgrythurau bellach yn brosiect cydweithredol. Pwyllgorau sydd y tu ôl i lawer o gyfieithiadau – megis y Beibl Cymraeg Newydd, yr ESV, yr NIV, yr NLT ac yn y…

Darllen ymlaen
23 Ion, 2017

Gwir Dduw: Crist a Nicaea

gan Geraint Lloyd

Soniwyd y tro diwethaf am anesmwythyd Brian McLaren ynghylch credoau’r Eglwys. Byddai eraill yn mynd ymhellach: Honnodd y rhyddfrydwr Adolf von Harnack (1851-1930) bod y credoau cynnar yn tagu symlrwydd y Cristnogion cyntaf. Gellid disgwyl y fath ymateb gan bobl sy’n cael trafferth â Christnogaeth athrawiaethol, ond mae gwrthwynebiad nifer o Gristnogion efengylaidd yn fwy…

Darllen ymlaen
23 Ion, 2017

Argyfwng Anghrediniaeth

gan Tony Eastwood

Her Mae’n siŵr ei bod yn deg dweud nad oes llawer yng Nghymru yn poeni am gyflwr eu heneidiau heddiw. Mae’r prif reswm dros hyn yn eglur iawn – nid yw’r mwyafrif yn sylweddoli fod ganddynt enaid. Yn yr ysgolion ac ar y cyfryngau, mae esblygiad a secwlariaeth anffyddiol yn ennill y dydd. Yn gynyddol…

Darllen ymlaen
23 Ion, 2017

Y Ddraig Goch Fawr

gan Edmund Owen

Hwyrach mai’r gwaith a gysylltir â’r diafol amlaf yw ei waith yn temtio, yn arbennig wrth i ni feddwl am fywyd pob dydd y Cristion. Yn wir, yng Ngweddi’r Arglwydd, patrwm o weddi ar gyfer gweddïo beunyddiol i bob golwg, ceir y deisyfiad ‘a phaid â’n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un…

Darllen ymlaen
23 Ion, 2017

Eleias – Pobl y Beibl

gan Peter Davies

Mae ymroddiad llwyr Eleias i Dduw yn ein herio’n fawr. Anfonwyd ef nid i gysuro ond i geryddu. Ac fe ddioddefodd unigrwydd mawr oherwydd hyn. Cyflawnodd Duw sawl gwyrth trwy weinidogaeth Eleias.Y mwyaf dramatig o bosibl oedd honno ar ben mynydd Carmel. Ond yn dilyn y wyrth fawr hon gwnaeth Jesebel ddial arno trwy fygwth…

Darllen ymlaen
3 of 912345...Last »