Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cyfeiriad Beiblaidd:

Salm

11 Mai, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 12 Mai 2020

gan Meirion Thomas

Molwch yr Arglwydd Salm 113   Mae popeth fel petaen nhw wedi newid. Trefn arferol ein diwrnodau wedi’i chwalu. Patrwm a rhythm bywyd yn gwbl wahanol. Ein bywyd eglwysig, yn sicr, wedi’i lwyr drawsnewid. Mae’n mynd a dod i wasanaethau’r Sul a’r cyfarfodydd wythnosol wedi’i wahardd ers wythnosau bellach. Oes ’na rywbeth sy’n aros yn…

Darllen ymlaen
7 Mai, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 10 Mai 2020

gan Mari Jones

‘Cododd fi i fyny o’r pwll lleidiog, allan o’r mwd a’r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau’n ddiogel.’ Salm 40:2   Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Trwy Lygad y Bugail a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl. Un yn Unig Daw pob tymor a’i waith…

Darllen ymlaen
4 Mai, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 28 Ebrill 2020

gan Steffan Job

Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw. Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron? Salm 42:1-2   Mae’r wythnosau diwethaf wedi profi y medrwn wneud heb rai pethau. Mae Kebabs, Coffi Starbucks a…

Darllen ymlaen
3 Mai, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 3 Mai 2020

gan Mari Jones

‘Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw! Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.’ Salm 36:7   Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Daw’r Wennol yn ôl a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl. Yr Iâr a’i Chywion A chaniatáu i’r wyau fod yn y tymheredd cywir dan yr iâr neu…

Darllen ymlaen
30 Ebr, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 30 Ebrill 2020

gan Meirion Thomas

Curwch ddwylo, yr holl bobloedd! Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw! Salm 47:1   Erbyn hyn rwy’n siŵr fod llawer ohonon ni’n dechrau dod i arfer â gwneud rhywbeth arbennig am wyth o’r gloch ar nos Iau. Fel eraill ar draws y wlad rydyn ni’n ymuno gyda’n cymdogion i guro dwylo, i ddangos ein cymeradwyaeth i staff, gofalwyr…

Darllen ymlaen
23 Ebr, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 23 Ebrill 2020

gan Samuel Oldridge

“Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth”. Salm 90:1 (BWM)   Ysgwn i ble fyddech chi’n ei gyfrif fel “adref”? Eich ystafell? Eich lle gwaith? Gyda’ch teulu? Gyda pherson arbennig? Moses a ysgrifennodd Salm 90 ac yn yr adnod gyntaf mae’n dweud ble roedd “adref” iddo fo: “Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i…

Darllen ymlaen
19 Ebr, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 19 Ebrill 2020

gan Mari Jones

‘Y mae’r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu’r briwedig o ysbryd.’ Salm 34:18   Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Trwy Lygad y Bugail a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl. Y Fref a Glyw’r Bugail ‘Dacw damaid glas gwerth ei gael eto fan acw,’…

Darllen ymlaen
17 Ebr, 2020

Defosiwn Dyddiol MEC – 17 Ebrill 2020

gan Bill Hughes

Os erys dagrau gyda’r hwyr, daw llawenydd yn y bore. Salm 30:5   Rydw i wedi bod yn meddwl am y gwahaniaeth mae atgyfodiad Iesu yn ei wneud i fywydau pobl. Meddyliwch am y gwahaniaeth a wnaeth yr atgyfodiad i Mair Magdalen. Mae ei hanes yn un diddorol. Mae’n amlwg bod Mair yn wraig a…

Darllen ymlaen