Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cyfeiriad Beiblaidd:

Lefiticus

14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 22

gan Gwyn Davies

Lefiticus 22:1-33 ‘PARCHU’R OFFRYMAU SANCTAIDD’ Pobl freintiedig yn Israel oedd yr offeiriaid, ond nid oedd eu statws arbennig i fod yn esgus dros ddifaterwch na phenrhyddid. Roedd yn ddyletswydd arnynt i ‘barchu’r offrymau sanctaidd … rhag iddynt halogi fy enw sanctaidd’ (2). O ganlyniad, roedd yn bwysig iddynt osgoi pob aflendid seremonïol (3-9). Er bod…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 21

gan Gwyn Davies

Lefiticus 21:1-24 ‘NID YW OFFEIRIAD I’W HALOGI EI HUN’ Gan fod Israel yn sanctaidd i Dduw, roedd cyfrifoldeb arbennig ar offeiriaid y genedl (1-9) – ac yn fwy fyth ar yr archoffeiriad (10-15) – i fod yn sanctaidd. Nid yw pob un o’r pethau sy’n cael eu gwahardd iddynt yn y bennod hon yn ddrwg…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 20

gan Gwyn Davies

Lefiticus 20:1-27 PECHODAU A’U COSBAU Pobl Dduw oedd yr Israeliaid. Gan fod Duw ei hun yn sanctaidd, roedd y genedl hithau i fod yn sanctaidd ac i amlygu’r sancteiddrwydd hwn yn ymarferol (7-8,26; 11:44-47; 19:2; cymharer 1 Pedr 1:15-16). Yn y bennod hon rhoddir sylw arbennig i’r angen i wylio rhag pechodau crefyddol a phechodau…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 19

gan Gwyn Davies

Lefiticus 19:1-37 SANCTEIDDRWYDD YMARFEROL Mae’n well i mi gyfraith dy enau Na miloedd o arian ac aur medd Morgan Rhys yr emynydd – gan aralleirio Salm 119:72 – ac yn y bennod hon gwelwn mor dda a llesol yw Cyfraith Duw mewn gwirionedd (Rhufeiniaid 7:12). Bwriad y Gyfraith yn Lefiticus oedd annog Israel i fod…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 18

gan Gwyn Davies

Lefiticus 18:1-30 MOESOLDEB RHYWIOL Deddfau seremonïol yn bennaf sydd yn rhan gyntaf Lefiticus – deddfau sy’n llawn arwyddocâd ysbrydol ond sydd bellach wedi eu cyflawni’n derfynol ym mherson a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist. Nid ydynt yn dal mewn grym, felly. Yn y bennod hon a’r penodau sy’n dilyn, fodd bynnag, cawn egwyddorion sydd i…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 17

gan Gwyn Davies

Lefiticus 17:1-16 RHYBUDDION Canlyniad y maddeuant sy’n dod i Israel drwy Ddydd y Cymod (pennod 16) yw bywyd o ufudd-dod llawen i Dduw. Yn y bennod hon a’r rhai sy’n dilyn, felly, gwelwn orchmynion amrywiol yn ymwneud â sancteiddrwydd ymarferol y genedl. Gau addoli Mynd i’r afael â pheryglon gau addoli a wna rhan gyntaf…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 16

gan Gwyn Davies

Lefiticus 16:1-34 DYDD Y CYMOD Yn y bennod hon – un o’r pwysicaf yn yr Hen Destament – cyflwyna Duw y drefn ar gyfer gwneud cymod dros bechod Israel. Wedi nodi’r paratoadau a’r canllawiau cyffredinol (1-10), manylir ar waith yr archoffeiriad ar yr achlysur arbennig hwn: aberthu dros ei bechod ei hun a’i deulu, llosgi…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 15

gan Gwyn Davies

Lefiticus 15:1-33 AFLENDID CORFF Un math o aflendid seremonïol oedd haint ar y croen (penodau 13–14). Ym mhennod 15 nodir math arall, sef diferlif o’r corff – diferlif cyson (2-15) a gollwng had (16-18) yn achos dyn, a misglwyf (19-24) a gwaedu annormal (25-30) yn achos merch. Rhaid pwysleisio nad oes drwg yn y rhain…

Darllen ymlaen