Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cyfeiriad Beiblaidd:

Lefiticus

14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 27

gan Gwyn Davies

Lefiticus 27:1-34 ADDUNED A DEGWM Mae llyfr Lefiticus wedi pwysleisio sancteiddrwydd Duw, a’r angen felly i’w bobl hwythau fod yn sanctaidd. Yr un yw’r neges yn y bennod olaf hon, sy’n rhoi sylw i addunedau (1-29) a degymau (30-34). Addunedau Byddai pobl weithiau’n gwneud adduned wirfoddol fel ymateb i fendith arbennig gan Dduw neu fel…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 26

gan Gwyn Davies

Lefiticus 26:1-46 CANLYNIADAU UFUDD-DOD AC ANUFUDD-DOD Mae neges y bennod hon yn amlwg iawn: o gadw’r gorchmynion a roddodd Duw iddynt fel rhan o’i gyfamod â nhw, byddai’r Israeliaid yn profi ei fendith yn helaeth, ond syrthiai melltithion arnynt pe cefnent ar Dduw a’i gyfamod. Cymharer Deuteronomium 7:12-24; 28:1-14. Gwir grefydd ‘Myfi yw’r Arglwydd eich…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 25:14-55

gan Gwyn Davies

Lefiticus 25:14-55 Y JWBILI Daw’r term ‘jwbili’ o’r gair am y corn hwrdd a genid ar ddechrau pob hanner canfed flwyddyn i gyhoeddi dechrau’r achlysur llawen hwn (9). Cyflwynwyd manylion sylfaenol am y jwbili yn 25:8-13, ac yma cawn ragor o gyfarwyddiadau. Rhoddir sylw penodol i agwedd y prynwr a’r gwerthwr yn achos tir (14-17,23-28)…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 25:1-13

gan Gwyn Davies

Lefiticus 25:1-13 Y FLWYDDYN SABOTHOL Mae dwy ran i’r adran hon, sef Saboth y seithfed flwyddyn (1-7) a’r jiwbili bob hanner can mlynedd (8-13). Er nad yw’r ordinhadau hyn mewn grym heddiw, maen nhw’n llawn gwersi ysbrydol. Gweler hefyd Deuteronomium 15:1-11. Saboth y seithfed flwyddyn Yn gyntaf, un o ddibenion Saboth y seithfed flwyddyn oedd…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 24:10-23

gan Gwyn Davies

Lefiticus 24:10-23 CABLEDD A CHOSB Cyfarwyddyd Duw sanctaidd ynghylch sancteiddrwydd bywyd crefyddol ac ymarferol cenedl Israel yw’r elfen bennaf yn Lefiticus. Fodd bynnag, mewn dau achos – 10:1-3 ac yma yn 24:10-23 – cofnodir hanes rhai a fynnodd fynd yn groes i drefn Duw. Er eu holl freintiau, ‘nid yw pawb sydd olinach Israel yn…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 24:1-9

gan Gwyn Davies

Lefiticus 24:1-9 GOLEUNI A BARA Cyflwynwyd manylion am y canhwyllbren a’i lampau eisoes yn Exodus 25:31-40; 27:20-21, ac am y bara gosod yn Exodus 25:23-30. Cyfeirir atynt yma eto i atgoffa’r Israeliaid am eu cyfrifoldeb i gynnal a pharchu’r gweithgareddau mwy cyson sy’n ymwneud â’r tabernacl yn ogystal â chadw’r gwyliau crefyddol arbennig (pennod 23)….

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 23:9-44

gan Gwyn Davies

Lefiticus 23:9-44 Y GWYLIAU CREFYDDOL ERAILL Diben y gwyliau crefyddol oedd annog pobl Israel i addoli Duw a chydnabod ei ddaioni tuag atynt. Mae i bob un ei gwersi i’r Cristion heddiw. Blaenffrwyth y cynhaeaf Nid oedd yr Israeliaid i fwyta dim o’r cynhaeaf haidd hyd nes yr offrymid y rhan briodol i Dduw i…

Darllen ymlaen
14 Maw, 2017

Bara’r Bywyd Lefiticus 23:1-8

gan Gwyn Davies

Lefiticus 23:1-8 Y SABOTH A’R PASG Yma ym mhennod 23 cawn fanylion am y gwahanol wyliau sydd i fod yn rhan mor bwysig o fywyd crefyddol Israel. Rhown sylw y tro hwn i ddwy ohonynt, sef y Saboth a’r Pasg (ynghyd â gŵyl y Bara Croyw). Y Saboth Rhoddodd Duw orchymyn eglur ynghylch y Saboth…

Darllen ymlaen