Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddDiarhebion 22:1-16 ‘GWOBR … OFN YR ARGLWYDD’ Cyfoeth Mae arian a chyfoeth – neu eu habsenoldeb – yn rhan annatod o fywyd dynol. Gan fod caru arian yn achosi pob math o ddrygioni (1 Tim. 6:10), fodd bynnag, mae’n bwysig cael yr agwedd gywir ato. Dyna ergyd nifer o’r damhegion yma. Gosodiad cyffredinol sydd yn…
Darllen ymlaenDiarhebion 21:17-31 ‘EIDDO’R ARGLWYDD YW’R FUDDUGOLIAETH’ Ni ellir osgoi’r sylw a roddir unwaith eto i’r defnydd iawn o’r tafod (23, 28; a hefyd 19, 24). Dyma un o bwysleisiau cyson y llyfr, ac ni allwn ond bod ar ein colled o’i anwybyddu; ond yma cawn fwrw golwg dros rai o’r diarhebion eraill. Difyrrwch ‘Caru pleser’…
Darllen ymlaenDiarhebion 21:1-16 ‘… YN LLAW’R ARGLWYDD’ Brenin Symbol o rym ac awdurdod yw’r brenin: ef sy’n teyrnasu, a rhaid i’w ddeiliaid blygu o’i flaen mewn teyrngarwch ac ufudd-dod. Ond mae’n bwysig cofio fod y brenin yntau – a phob un mewn awdurdod, o ran hynny – yn llaw Duw (1). Y brenin sy’n llywodraethu, ond…
Darllen ymlaenDiarhebion 20:16-30 ‘DISGWYL WRTH YR ARGLWYDD …’ Diwedd Mae’r llyfr hwn yn awyddus inni ystyried diwedd pethau. Mae tipyn o dwyll fel petai’n talu’n dda ar y dechrau, ond ‘yn y diwedd …’ (17). Gall peidio â pharchu rhieni ymddangos yn arwydd o ryddid ac annibyniaeth, ond daw canlyniadau’n ddi-ffael (20). Mae derbyn rhodd sylweddol…
Darllen ymlaenDiarhebion 20:1-15 ‘PWY A ALL GAEL DYN FFYDDLON?’ Gwin Mewn cymdeithas sy’n ei thwyllo’i hun mai alcohol yw’r allwedd i lawenydd a’r ateb i bob math o broblemau, ceir yn adnod 1 air yn ei bryd. Nid yw’r Beibl yn condemnio gwin na diod gadarn fel y cyfryw (gweler, e.e., Ioan 2:1-11; 1 Tim. 5:23),…
Darllen ymlaenDiarhebion 19:16-29 ‘CYNGOR YR ARGLWYDD SY’N SEFYLL’ Cadw ‘Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid’, medd adnod 16 (cyfieithiad William Morgan); cymharer, e.e., 13:13; 29:18; Salm 1:2-3; 19:11. Pwysleisia’r Testament Newydd, fodd bynnag, mai drwy ffydd yng Nghrist, ac nid drwy ufuddhau i ddeddf Duw, y mae iachawdwriaeth (Act. 13:39; Rhuf. 3:20,…
Darllen ymlaenDiarhebion 19:1-15 ‘ANRHYDEDD YW MADDAU TRAMGWYDD’ Tlawd Rhoddir cryn sylw yma – ac yn y llyfr drwyddo draw – i’r tlawd. Gwaetha’r modd, mae’r tlawd yn aml yn dioddef yn y byd sydd ohoni (4). ‘Y mae . . . pawb yn gyfaill i’r sawl sy’n rhoi’ (6), ond hawdd iawn i bobl – hyd…
Darllen ymlaenDiarhebion 18:14-24 ‘MEDDWL DEALLUS’ Unwaith eto rhoddir pwyslais ar eiriau (gweler adnodau 20, 21, 23), ond trown ein sylw at faterion eraill. Cynnal Wrth wynebu problemau bywyd, mae cymaint yn dibynnu ar ein hagwedd fewnol. Yn wir, mynega adnod 14 wirionedd gwerthfawr a gydnabyddir yn gyffredinol yn achos afiechydon amrywiol. Ar y llaw arall, ‘Y…
Darllen ymlaen